
Gorseinon

Heol Belgrave
Gorseinon
Abertawe
SA4 6RD
Ffôn: 01792 890700
Ffacs: 01792 894818
E-bost: admin@gowercollegeswansea.ac.uk
Oriau agor
Yn ystod y tymor
Llun 8.30am - 4.45pm
Mawrth, Mercher ac Iau 8.30am - 9.00pm
Gwener 8.30am - 4.30pm
Wedi’i leoli mewn ardal breswyl hyfryd yng Ngorseinon, mae’r campws yn darparu ar gyfer mwy na 2,000 o fyfyrwyr amser llawn, sydd â mynediad i bron 50 o bynciau Safon Uwch ac amrywiaeth eang o gyrsiau Galwedigaethol. Mae’r ddarpariaeth Dysgu Seiliedig ar Waith, gan gynnwys Prentisiaethau, wedi’i lleoli yma hefyd.
Darperir cyrsiau rhan-amser i oedolion yn ystod y dydd a gyda’r nos, gan gynnwys cymwysterau Gwella Saesneg a Mathemateg, ESOL, Dychwelyd i Waith, Cwnsela, Mynediad, NVQ Gofal Plant, Dysgu a Datblygu, Gwasanaeth Cwsmeriaid, Peirianneg, TG, Byw’n Annibynnol, Cerbydau Modur, ac Addysgu.
Mae cymorth dysgwyr yn ganolog i weithgareddau ac mae cyfleusterau’n cael eu huwchraddio’n gyson i greu amgylchedd sy’n rhoi modd i fyfyrwyr wireddu eu potensial. Ymhlith y cyfleusterau arbenigol a ddarperir mae labordai Gwyddoniaeth, ystafell Cerbydau Modur a chanolfan ar gyfer y Celfyddydau Perfformio a Chreadigol.
Hefyd, rydym ni’n gweithredu gweithgareddau unigryw’r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (PTG) o’r campws hwn. Mae’r partneriaethau hyn yn cael eu cydnabod yn genedlaethol fel prosiectau cyflogwyr/coleg ardderchog.












