Canolfan Chwaraeon

Canolfan Chwaraeon Coleg Gwyr Abertawe

Canolfan Chwaraeon
Heol Tycoch
Abertawe
SA2 9EB
Ffôn: 01792 284088
E-bost: sportscentre@gowercollegeswansea.ac.uk
Ymweld â ni ar Facebook

Amserau Agor
Llun i Iau - 6.30am tan 10pm
Gwener - 6.30am tan 9pm
Sadwrn - 8am tan 7pm
Sul - 8am tan 9pm

Mae Canolfan Chwaraeon Tycoch yn cynnwys stiwdio gyflyru llawn offer [gyda dewis o offer diweddaraf Nautilus gan gynnwys dringwyr traed, melinau traed, beiciau, pwysau rhydd, peiriannau rhwyfo a hyfforddwyr eliptigol], neuadd chwaraeon amlbwrpas a chyrtiau sboncen.
 

Amserlen dosbarthiadau ymarfer corff yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Dydd

Dosbarth

Amser

Llun

Troelli Keiser i Ddechreuwyr (rhaid cadw lle)

5.30-6.00pm

 

Troelli Keiser (rhaid cadw lle)

6.15-7.00pm

Mawrth

Troelli Keiser (rhaid cadw lle) 

7.15-8.00am 

 

Coesau, Penolau a Boliau**

6.00-6.45pm

 

Troelli Keiser Uwch (rhaid cadw lle)

6.00-6.45pm

 

Hyfforddiant Cylchol*

7.00-7.45pm

Mercher

Bootcamp i Ferched**

6.00-7.00pm

 

Troelli Keiser (rhaid cadw lle)

7.00-7.45pm

Iau

Troelli a Phwnio (rhaid cadw lle a thalu am 10 wythnos ymlaen llaw)

6.45-7.30am

 

Hyfforddiant Cylchol Bocsiomarfer*

6.30-7.30pm

Gwener

Troelli Keiser (rhaid cadw lle)

7.15-8.00am

 

Troelli Keiser (rhaid cadw lle)

5.15-6.00pm

Saturday Troelli a Phwnio (rhaid cadw lle) 9-9.45am
  Pilates (rhaid cadw lle) 10-11am

Sul

Hyfforddiant Cylchol*

11.15-12.15pm

  Rhwydi Criced   12.30-3.00pm
  Badminton 3.00-5.00pm

 

Pilates*

5.00-6.00pm

* Yn rhad ac am ddim i aelodau llawn, staff ac aelodau corfforaethol yn unig
** Prisiau'n amrywio a bydd rhaid i chi dalu'r hyfforddwr allanol yn uniongyrchol

Efallai yr hoffech chi ddarllen am ein sesiynau Summer Hwb Ben Bore 2012 hefyd.

Diweddarwyd diwethaf 16/05/2012

Profi ffitrwydd
Mae'r profion yn cynnwys pwysau gwaed, canran braster y corff, cyfansoddiad y corff, gweithrediad yr ysgyfaint, pŵer y coesau, cryfder rhan ucha'r corff, gwydnwch ac ystwythder.*

Bwriad profi ffitrwydd yw archwilio eich lefelau ffitrwydd cyffredinol.  Mae profion ffitrwydd yn ffordd hawdd o fonitro cynnydd eich rhaglen ymarfer corff.  Bydd prawf ffitrwydd rheolaidd yn sicrhau eich bod chi'n cael y canlyniadau gorau o'ch hyfforddiant.

Yn ystod ein sesiynau profi ffitrwydd byddwn ni'n archwilio nifer o elfennau cysylltiedig ag iechyd megis:

  • Holiadur meddygol llawn
  • Taldra
  • Pwysau
  • Pwysau gwaed
  • Cyfradd curiad y galon
  • Indecs Màs y Corff (BMI)
  • Canran braster y corff
  • Gallu'r ysgyfaint
  • Ystwythder
  • Ffitrwydd aerobig (VO2 max)

Gallwn hefyd gynnig cyngor i'ch helpu chi i gyrraedd eich nodau personol o fewn amserlen resymol. Bydd y sesiwn ymgynghori yn para tua 45 munud.  Mae pob cleient yn cael dewis aelod o staff gwryw neu fenyw.

Mae'r rhain ar gael yn y stiwdio gyflyru bob bore Mawrth a bore Iau [rhwng 10am a 11.30am] a bob dydd Sadwrn [rhwng 11am a 12pm.]

Cyfeiriadau Meddyg Teulu
Mae cyfeiriadau meddyg teulu yn gofyn am wasanaethau gweithiwr proffesiynol hyfforddedig i lunio rhaglen ymarfer corff ddiogel ac effeithiol i'ch ailsefydlu ar ôl i chi gael anaf neu lawdriniaeth, salwch neu oherwydd bod eich meddyg o'r farn bod rhaid i chi fod yn fwy iach am resymau iechyd.

Sut mae'r cynllun cyfeirio meddyg teulu yn gweithio
Bydd meddyg teulu lleol, nyrs practis, ymgynghorydd neu weithiwr proffesiynol meddygol arall yn cyfeirio cleifion drwy roi 'Ffurflen Gyfeirio' iddyn nhw.  Mae'r cyfeiriad hwn yn nodi manylion unrhyw broblemau meddygol sydd gan y claf y bydd angen eu hystyried pan fydd un o'n hyfforddwyr cymwysedig yn llunio rhaglen ymarfer corff briodol.

Y sesiwn gyntaf
Mae’ch sesiwn gyntaf yn rhad ac am ddim a bydd ar ffurf asesiad ffitrwydd syml ond effeithiol.  Bydd un o'n hyfforddwyr cyfeiriad meddyg teulu cymwysedig yn ei chynnal a bydd yn para tua 45 munud.

Bydd rhaid i chi lenwi holiadur meddygol a gwneud asesiad felly dylech chi wisgo dillad llac, cyffyrddus ac esgidiau gyda gwadn meddal neu drênyrs.  Gan ystyried y canlyniadau a'r rheswm dros eich cyfeirio, bydd yr hyfforddwr yn llunio rhaglen ymarfer corff i gychwyn arni yn ystod yr apwyntiad nesaf.

Gweithgareddau i blant [dan 16 oed]

Hwyl a sbri i blant bywiog - Disney

Gweithgareddau Plant Iau

Partion Plant 2012

**Mae sesiynau'n cael eu cynnal bob wythnos.  Pris y sesiynau yw £2.50 y plentyn (Badminton Plant Iau £1.50) a gallwch chi ddewis o'r canlynol:

  • Dydd Iau a dydd Gwener rhwng 7pm ac 8pm - Clwb Ffitrwydd Cardio [14 i 16 oed]*
  • Dydd Iau rhwng 5pm a 6pm - Pêl-droed Plant Bach [4 i 6 oed] a Phêl-droed Plant Iau [7 i 9 oed]
  • Dydd Sul rhwng 4pm a 5pm - Clwb Ffitrwydd Cardio

Aelodaeth
Gallwch chi brynu aelodaeth am 1, 3, 6 neu 12 mis yn dibynnu ar eich ffordd o fyw. I gael gweld y dewisiadau aelodaeth llawn, prisiau a ffurflen gais lawrlwythwch y ffeiliau PDF gan ddefnyddio'r dolenni ar waelod y dudalen neu cysylltwch â'r Ganolfan Chwaraeon.

Taflen dewisiadau aelodaeth

Ffurflen gais aelodaeth

Amserau Cau*
Dydd Gwener y Groglith - Dydd Llun y Pasg
Calan Mai
Gŵyl Banc y Sulgwyn
Gŵyl Banc mis Awst
Dydd Nadolig - 9 Ionawr 2012

*Sylwch bydd y Ganolfan Chwaraeon yn cau yn ystod tywydd garw.  Os bydd unrhyw ran o'r coleg ar gau yn yr amgylchiadau hyn, bydd neges yn cael ei rhoi ar y dudalen hafan a gaiff ei diweddaru'n gyson.

Gower College Swansea
From September 2012, there will be several important changes to the provision of curriculum for new...
Gower College Swansea
A joint project from the National Theatre of Wales and Frantic Assembly, the college has supported this ...
Jobs Fair at Gower College Swansea
Jobs Fayre @ Tycoch campus (common room). Thursday 24th May, 10am to 3.30pm Representation from the...
Swans star Joe Allen has signed-up for a new scheme to inspire and reward young people. The Wales midfielder...
Level 2 Art and Design students at Llwyn y Bryn recently took part in a two day workshop with artist Mary...