Canolfan Chwaraeon

Canolfan Chwaraeon Coleg Gwyr Abertawe

Canolfan Chwaraeon
Heol Tycoch
Abertawe
SA2 9EB
Ffôn: 01792 284088
E-bost: sportscentre@gowercollegeswansea.ac.uk
Ymweld â ni ar Facebook

Amserau Agor
Llun i Iau - 6.30am tan 10pm
Gwener - 6.30am tan 9pm
Sadwrn - 8am tan 7pm
Sul - 8am tan 9pm

Mae Canolfan Chwaraeon Tycoch yn cynnwys stiwdio gyflyru llawn offer [gyda dewis o offer diweddaraf Nautilus gan gynnwys dringwyr traed, melinau traed, beiciau, pwysau rhydd, peiriannau rhwyfo a hyfforddwyr eliptigol], neuadd chwaraeon amlbwrpas a chyrtiau sboncen.
 

Amserlen dosbarthiadau ymarfer corff yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Dydd

Dosbarth

Amser

Llun Hwb Ben Bore 7.00-8.00am

 

Troelli Keiser i Ddechreuwyr (rhaid cadw lle)

5.30-6.00pm

 

Troelli Keiser (rhaid cadw lle)

6.15-7.00pm

Mawrth

Troelli Keiser (rhaid cadw lle) 

7.00-7.45am 

 

Troelli Keiser Uwch (rhaid cadw lle)

6.00-6.45pm

 

Hyfforddiant Cylchol*

7.00-7.45pm

Mercher 

Bootcamp i Ferched**

6.00-7.00pm

 

Troelli Keiser (rhaid cadw lle)

7.00-7.45pm

Iau

Troelli a Phwnio (rhaid cadw lle a thalu am 10 wythnos ymlaen llaw)

6.45-7.30am
  Cerflunio’r Corff (rhaid cadw lle) 7.00-8.00pm 

Gwener

Troelli Keiser (rhaid cadw lle)

7.15-8.00am

 

Troelli Keiser (rhaid cadw lle)

5.15-6.00pm

Sadwrn Troelli a Phwnio (rhaid cadw lle) 9-9.45am
  Pilates (rhaid cadw lle) 10-11am

Sul

Hyfforddiant Cylchol*

11.15-12.15pm

 

Pilates**

5.00-6.00pm

O 1 Chwefror bydd pris dosbarthiadau ymarfer corff yn codi yng Nghanolfan Chwaraeon y coleg. Pris newydd y dosbarthiadau yw £2.50.

* Yn rhad ac am ddim i aelodau llawn, staff ac aelodau corfforaethol yn unig
** Prisiau'n amrywio a bydd rhaid i chi dalu'r hyfforddwr allanol yn uniongyrchol

Diweddarwyd diwethaf 07/02/2013

Profi ffitrwydd
Mae'r profion yn cynnwys pwysau gwaed, canran braster y corff, cyfansoddiad y corff, gweithrediad yr ysgyfaint, pŵer y coesau, cryfder rhan ucha'r corff, gwydnwch ac ystwythder.*

Bwriad profi ffitrwydd yw archwilio eich lefelau ffitrwydd cyffredinol.  Mae profion ffitrwydd yn ffordd hawdd o fonitro cynnydd eich rhaglen ymarfer corff.  Bydd prawf ffitrwydd rheolaidd yn sicrhau eich bod chi'n cael y canlyniadau gorau o'ch hyfforddiant.

Yn ystod ein sesiynau profi ffitrwydd byddwn ni'n archwilio nifer o elfennau cysylltiedig ag iechyd megis:

  • Holiadur meddygol llawn
  • Taldra
  • Pwysau
  • Pwysau gwaed
  • Cyfradd curiad y galon
  • Indecs Màs y Corff (BMI)
  • Canran braster y corff
  • Gallu'r ysgyfaint
  • Ystwythder
  • Ffitrwydd aerobig (VO2 max)

Gallwn hefyd gynnig cyngor i'ch helpu chi i gyrraedd eich nodau personol o fewn amserlen resymol. Bydd y sesiwn ymgynghori yn para tua 45 munud.  Mae pob cleient yn cael dewis aelod o staff gwryw neu fenyw.

Mae'r rhain ar gael yn y stiwdio gyflyru bob bore Mawrth a bore Iau [rhwng 10am a 11.30am] a bob dydd Sadwrn [rhwng 11am a 12pm.]

Cyfeiriadau Meddyg Teulu
Mae cyfeiriadau meddyg teulu yn gofyn am wasanaethau gweithiwr proffesiynol hyfforddedig i lunio rhaglen ymarfer corff ddiogel ac effeithiol i'ch ailsefydlu ar ôl i chi gael anaf neu lawdriniaeth, salwch neu oherwydd bod eich meddyg o'r farn bod rhaid i chi fod yn fwy iach am resymau iechyd.

Sut mae'r cynllun cyfeirio meddyg teulu yn gweithio
Bydd meddyg teulu lleol, nyrs practis, ymgynghorydd neu weithiwr proffesiynol meddygol arall yn cyfeirio cleifion drwy roi 'Ffurflen Gyfeirio' iddyn nhw.  Mae'r cyfeiriad hwn yn nodi manylion unrhyw broblemau meddygol sydd gan y claf y bydd angen eu hystyried pan fydd un o'n hyfforddwyr cymwysedig yn llunio rhaglen ymarfer corff briodol.

Y sesiwn gyntaf
Mae’ch sesiwn gyntaf yn rhad ac am ddim a bydd ar ffurf asesiad ffitrwydd syml ond effeithiol.  Bydd un o'n hyfforddwyr cyfeiriad meddyg teulu cymwysedig yn ei chynnal a bydd yn para tua 45 munud.

Bydd rhaid i chi lenwi holiadur meddygol a gwneud asesiad felly dylech chi wisgo dillad llac, cyffyrddus ac esgidiau gyda gwadn meddal neu drênyrs.  Gan ystyried y canlyniadau a'r rheswm dros eich cyfeirio, bydd yr hyfforddwr yn llunio rhaglen ymarfer corff i gychwyn arni yn ystod yr apwyntiad nesaf.

Gweithgareddau i blant [dan 16 oed]




 

 

 

 

 

 

 

  •  

Aelodaeth

Ffurflen gais aelodaeth

Amserau Cau*
Dydd Gwener y Groglith - Dydd Llun y Pasg
Calan Mai
Gŵyl Banc y Sulgwyn
Gŵyl Banc mis Awst
Dydd Nadolig i Ddydd Calan 

*Sylwch bydd y Ganolfan Chwaraeon yn cau yn ystod tywydd garw.  Os bydd unrhyw ran o'r coleg ar gau yn yr amgylchiadau hyn, bydd neges yn cael ei rhoi ar y dudalen hafan a gaiff ei diweddaru'n gyson.

Diweddarwyd Mai 2013

The South West Wales Lion’s Lair final took place recently at the Dylan Thomas Centre, Swansea. A...
GCS
Gower College Swansea has two upcoming open evenings for those looking to start a part time course this...
ColegauCymru - the national organisation representing all 17 further education (FE) colleges and two FE...
These exhibitions are the culmination of this year's work from the Visual Arts students at Llwyn Y Bryn....
GCS
Welsh Bacc students have taken part in a fundraising project to raise money for SOS AFRICA with the key goal...