Vanilla Pod

Coleg Gwyr Abertawe

Mae’r Vanilla Pod yn Nhycoch yn rhoi cyfle i westeion flasu bwyd cyfoes ardderchog, strafagansas ciniawa rhyngwladol a digwyddiadau thema arbennig.

Ar agor yn ystod y tymor yn unig, mae pob pryd bwyd yn cael ei baratoi, ei goginio a’i weini gan ein myfyrwyr Lletygarwch ac Arlwyo amser llawn. Mae dewis o wirodydd, gwinoedd cain, cwrw potel, coctels, diodydd ysgafn a diodydd poeth ar gael i’w prynu gyda’ch pryd bwyd.

I gadw lle ymlaen llaw ffoniwch 01792 284252 / 284218 neu anfonwch e-bost i vanillapod@gowercollegeswansea.ac.uk

Cinio Canol Dydd wedi’i weini ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 12pm a 2pm (archebion olaf 1.15pm)
Cinio canol dydd dau gwrs o £6.50 (cwrs cyntaf a’r prif gwrs) ac eithrio’r bwydlenni Nadolig, thema a gourmet.
Cinio canol dydd tri chwrs o £7.95 (cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin) ac eithrio’r bwydlenni Nadolig, thema a gourmet.

Cinio Gyda’r Hwyr wedi’i weini rhwng 6pm a 9pm (archebion olaf 6.30pm)
Cinio gyda’r hwyr  pedwar cwrs o £17.95 ac eithrio’r bwydlenni Nadolig, thema a gourmet.

Cinio Nadolig Canol Dydd / Gyda’r Hwyr yn y Vanilla Pod
Cinio canol dydd pedwar cwrs ar gael ar 4, 5, 6, 7, 11, 12, 13, 14, 18 a 19 Rhagfyr am £13.50 y pen
Cinio gyda’r hwyr ar gael nos Iau 6 a nos Iau 13 Rhagfyr am £20 y pen

Nosweithiau Thema o £20 y pen
29 Tachwedd 2012 - Blas ar yr Alban
7 Chwefror 2013 - Blas ar Tsieina
28 Chwefror 2013 - Blas ar Gymru
14 Mawrth 2013 - Blas ar Iwerddon
25 Ebrill 2013 - Blas ar Loegr

Nosweithiau Gourmet o £25 y pen (gan gynnwys aperitif a choffi hufen)
11 Hydref 2012 - Blas ar y Môr
15 Tachwedd 2012 – Diwrnod Beaujolais Nouveau
24 Ionawr 2013 – Bwydlen Helgig
28 Mawrth 2013 – Bwydlen Flasu’r Vanilla Pod
23 Mai 2013 – Bwydlen Lysieuol
13 Mehefin 2013 – Clwb Pwdinau

Adborth gan gwsmeriaid
'Noson wych - dyn ni'n dod yma'n rheolaidd ac wedi mwynhau sawl pryd bwyd yn y coleg.'

'Pryd bwyd ffantastig.  Gwasanaeth heb ei ail….mae'n bleser gweld pobl ifanc yn mwynhau eu hunain a bod mor frwdfrydig.  Llongyfarchiadau.'

'Roedd y pryd bwyd heno yn wych, y gwasanaeth yn eithriadol ac mae'r staff bob amser yn gwrtais.'

'
Roeddwn i wedi mwynhau'r bwyd blasus yn fawr iawn - da iawn chi.  Mae dyfodol disglair o'ch blaenau.'

'
Pryd bwyd arbennig, llawn blas ac wedi'i gyflwyno’n dda.  Llongyfarchiadau.'

'
Noson hyfryd a gwerth gwych am yr arian - roedd y staff wedi gwneud llawer o ymdrech gyda'r cyflwyniad a'r gwasanaeth.  Daliwch ati.'

Diweddarwyd Hydref 2012

The South West Wales Lion’s Lair final took place recently at the Dylan Thomas Centre, Swansea. A...
GCS
Gower College Swansea has two upcoming open evenings for those looking to start a part time course this...
ColegauCymru - the national organisation representing all 17 further education (FE) colleges and two FE...
These exhibitions are the culmination of this year's work from the Visual Arts students at Llwyn Y Bryn....
GCS
Welsh Bacc students have taken part in a fundraising project to raise money for SOS AFRICA with the key goal...