Llywodraethu

Y Corff Llywodraethu
Mae Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn ei gwneud hi'n ofynnol i bob coleg yn y sector Addysg Bellach gael corff llywodraethu.  Enw corff llywodraethu'r coleg yw'r Bwrdd Corfforaethol.  Mae'n cynnwys 20 o lywodraethwyr sydd ag ystod eang o arbenigedd a phrofiad, ac sy'n dymuno cyfrannu at y gymuned leol.

Mae'r Bwrdd Corfforaethol yn gyfrifol am ddiddyledrwydd ariannol y coleg, ei reolaeth gadarn ac ansawdd y gwasanaeth y mae'n ei ddarparu.  Mae'r Bwrdd hefyd yn gyfrifol am y defnydd priodol o gronfeydd cyhoeddus a ymddiriedir iddo.

Mae ei ddyletswyddau'n cynnwys:

  • penderfynu ar gymeriad addysgol a chenhadaeth y sefydliad a goruchwylio ei weithgareddau
  • y defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau, diddyledrwydd y sefydliad a'r Gorfforaeth a diogelu eu hasedau
  • cymeradwyo amcangyfrifon blynyddol o incwm a gwariant
  • penodi, graddio, atal dros dro, diswyddo a phennu tâl ac amodau gwasanaeth deiliaid swyddi uwch a Chlerc y Gorfforaeth
  • gosod fframwaith ar gyfer tâl ac amodau gwasanaeth pob aelod arall o staff.

Mae’r Bwrdd Corfforaethol yn gwneud rhywfaint o’i waith drwy’r pwyllgorau canlynol sydd naill ai yn bwyllgorau ymgynghorol ac/neu yn bwyllgorau sy’n gwneud penderfyniadau, fel y nodir gan y Bwrdd Corfforaethol a deddfwriaeth:

Mae’r Bwrdd Corfforaethol wedi mabwysiadu Cod Ymddygiad i helpu i sicrhau effeithiolrwydd y broses lywodraethu drwy nodi safonau ymddygiad a ddisgwylir gan Lywodraethwyr.

Y Llywodraethwyr

Mae’r Clerc i’r Corff Llywodraethu yn cadw Cofrestr o Fuddiannau Llywodraethwyr.

Mae swyddi gwag yn codi o bryd i’w gilydd ar y Bwrdd Corfforaethol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am rôl y Llywodraethwr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, cysylltwch â Chlerc y Gorfforaeth.

Os oes unrhyw gwestiynau gennych am faterion llywodraethu, cysylltwch â Lucy Griffiths, Clerc i'r Bwrdd Corfforaethol ar 01792 284222 neu anfonwch e-bost i clerksoffice@gowercollegeswansea.ac.uk

Sylwch bydd yr holl ddogfennau wedi'u dyddio cyn 20 Awst 2010 yn cyfeirio at 'Goleg Abertawe' a/neu 'Goleg Gorseinon' oherwydd cawson nhw eu hysgrifennu cyn ffurfio Coleg Gŵyr Abertawe.

Diweddarwyd Tachwedd 2011

Gower College Swansea
From September 2012, there will be several important changes to the provision of curriculum for new...
Gower College Swansea
A joint project from the National Theatre of Wales and Frantic Assembly, the college has supported this ...
Jobs Fair at Gower College Swansea
Jobs Fayre @ Tycoch campus (common room). Thursday 24th May, 10am to 3.30pm Representation from the...
Swans star Joe Allen has signed-up for a new scheme to inspire and reward young people. The Wales midfielder...
Level 2 Art and Design students at Llwyn y Bryn recently took part in a two day workshop with artist Mary...