Coleg Iach

Mae Coleg Iach yn un sy'n hybu ffordd o fyw iach ar gyfer pob un o'i fyfyrwyr ac aelodau o staff. Drwy gydweithio â'n partneriaid yn y gymuned, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ceisio creu amgylchedd dysgu lle y mae lles cadarnhaol yn rhywbeth y gall pawb ei ddisgwyl.

Mae amrywiaeth o fentrau yn cael eu cynnig ar hyn o bryd gan gynnwys:
 

I'r myfyrwyr

  • Mynediad i Gynghorydd Iechyd Myfyrwyr
  • Mynediad i Fentor Myfyrwyr
  • Mynediad i Gynghorydd Myfyrwyr
  • Mynediad i Diwtor Personol
  • Darpariaeth tiwtorial sy'n cwmpasu'r rhaglen ABCh
  • Ffioedd aelodaeth rhatach ar gyfer y Ganolfan Chwaraeon
  • Rhaglen rhoi'r gorau i ysmygu
  • Rhaglen gyfoethogi

I'r staff

  • Oriau gwaith hyblyg
  • Mynediad i Adnoddau Cynghori Gweithwyr
  • Myfyrio fel rhan o'r Rhaglen Datblygu Staff
  • Triniaethau rhad ac am ddim yng Nghanolfan Broadway
  • Sesiynau ffisiotherapi rhad ac am ddim
  • Ffioedd aelodaeth rhatach ar gyfer y Ganolfan Chwaraeon
  • Cynllun Beicio i'r Gwaith

Wrth i ni symud ymlaen hoffem weithredu ar fenter y Coleg Iach drwy godi ymwybyddiaeth o fwyta'n iach, maeth a manteision deiet iach ac ymarfer corff, lles emosiynol ac alcohol, cyffuriau a thybaco.

Os oes unrhyw syniadau gennych ar gyfer mentrau Coleg Iach yn y dyfodol rhowch wybod i ni

Gower College Swansea
From September 2012, there will be several important changes to the provision of curriculum for new...
Gower College Swansea
A joint project from the National Theatre of Wales and Frantic Assembly, the college has supported this ...
Jobs Fair at Gower College Swansea
Jobs Fayre @ Tycoch campus (common room). Thursday 24th May, 10am to 3.30pm Representation from the...
Swans star Joe Allen has signed-up for a new scheme to inspire and reward young people. The Wales midfielder...
Level 2 Art and Design students at Llwyn y Bryn recently took part in a two day workshop with artist Mary...