
Polisïau a Gweithdrefnau
Mae'r polisïau a'r gweithdrefnau canlynol ar gael i'w lawrlwytho yn Saesneg. Mae polisïau eraill [ee Gwrth-fwlio, Diogelu Plant) ar gael yn Gymraeg ar gais:
Cod Ymddygiad y Myfyriwr 2011-12
Polisi Presenoldeb Myfyrwyr 2011-12
Gweithdrefnau Disgyblu Myfyrwyr 2011-12
Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2011
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2012-2015
Sylwch bydd y polisïau a luniwyd cyn ffurfio Coleg Gŵyr Abertawe yn Awst 2010 yn dal i gyfeirio at 'Coleg Abertawe' a 'Coleg Gorseinon'.
Cynllun Iaith Gymraeg
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn mabwysiadu’r egwyddor, wrth ymwneud â busnes cyhoeddus yng Nghymru, y bydd yn trin yr iaith Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.
Edrychwn ymlaen at lunio Cynllun Iaith newydd a chadarn i Goleg Gŵyr Abertawe, ond yn y cyfamser, byddwn yn parhau i weithredu prif ymrwymiadau gweinyddol Cynlluniau Iaith yr hen golegau Abertawe a Gorseinon.
Rhyddid Gwybodaeth
Mae mabwysiadu cynllun cyhoeddi yn ofynnol o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Mae’r Ddeddf hon yn hybu mwy o onestrwydd ac atebolrwydd ar draws y sector cyhoeddus trwy orfodi’r holl ‘awdurdodau cyhoeddus’ i drefnu’n weithredol bod gwybodaeth ar gael trwy gynllun cyhoeddi.
Cynllun Cyhoeddi Coleg Gŵyr Abertawe
Mae'r Cynllun Cyhoeddi yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd polisïau sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Cyhoeddi a luniwyd cyn ffurfio Coleg Gŵyr Abertawe yn Awst 2010 yn parhau i gyfeirio at 'Goleg Abertawe' a 'Choleg Gorseinon'.
Os hoffech gael unrhyw un o'r dogfennau mewn fformat arall - print bras, sain, electronig neu yn Gymraeg - cysylltwch â'r Gweinyddwr Ansawdd, Beverley Smith, ar 01792 284000.
Diweddarwyd Hydref 2011












