Polisïau a Gweithdrefnau

Mae'r polisïau a'r gweithdrefnau canlynol ar gael i'w lawrlwytho yn Saesneg. Mae polisïau eraill [ee Gwrth-fwlio, Diogelu Plant) ar gael yn Gymraeg ar gais:

Cod Ymddygiad y Myfyriwr
Polisi Presenoldeb Myfyrwyr 2011-12
Gweithdrefnau Disgyblu Myfyrwyr 2011-12
Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2011
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2012-2015
Polisi Diogelu Plant ac Oedolion Agored i Niwed

Sylwch bydd y polisïau a luniwyd cyn ffurfio Coleg Gŵyr Abertawe yn Awst 2010 yn dal i gyfeirio at 'Coleg Abertawe' a 'Coleg Gorseinon'.

Cynllun Iaith Gymraeg
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn mabwysiadu’r egwyddor, wrth ymwneud â busnes cyhoeddus yng Nghymru, y bydd yn trin yr iaith Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.

Edrychwn ymlaen at lunio Cynllun Iaith newydd a chadarn i Goleg Gŵyr Abertawe, ond yn y cyfamser, byddwn yn parhau i weithredu prif ymrwymiadau gweinyddol Cynlluniau Iaith yr hen golegau Abertawe a Gorseinon.

Rhyddid Gwybodaeth
Mae mabwysiadu cynllun cyhoeddi yn ofynnol o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Mae’r Ddeddf hon yn hybu mwy o onestrwydd ac atebolrwydd ar draws y sector cyhoeddus trwy orfodi’r holl ‘awdurdodau cyhoeddus’ i drefnu’n weithredol bod gwybodaeth ar gael trwy gynllun cyhoeddi.

Dylid cyfeirio unrhyw geisiadau Rhyddid Gwybodaeth at lucy.griffiths@gowercollegeswansea.ac.uk

Cynllun Cyhoeddi Coleg Gŵyr Abertawe

Mae'r Cynllun Cyhoeddi yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.  Bydd polisïau sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Cyhoeddi a luniwyd cyn ffurfio Coleg Gŵyr Abertawe yn Awst 2010 yn parhau i gyfeirio at 'Goleg Abertawe' a 'Choleg Gorseinon'.

Os hoffech gael unrhyw un o'r dogfennau mewn fformat arall - print bras, sain, electronig neu yn Gymraeg - cysylltwch â'r Gweinyddwr Ansawdd, Beverley Smith, ar 01792 284000.

Diweddarwyd Mawrth 2013

The South West Wales Lion’s Lair final took place recently at the Dylan Thomas Centre, Swansea. A...
GCS
Gower College Swansea has two upcoming open evenings for those looking to start a part time course this...
ColegauCymru - the national organisation representing all 17 further education (FE) colleges and two FE...
These exhibitions are the culmination of this year's work from the Visual Arts students at Llwyn Y Bryn....
GCS
Welsh Bacc students have taken part in a fundraising project to raise money for SOS AFRICA with the key goal...