
Academïau Chwaraeon

Mae rhai myfyrwyr amser llawn yn cael cyfle i ymuno ag un o academïau chwaraeon y coleg. Mae aelodaeth o academi yn golygu y gall myfyrwyr ddilyn y rhaglen astudio o'u dewis a datblygu eu sgiliau chwaraeon yr un pryd.
Academi Bêl-droed / Bechgyn a Merched
Bydd myfyrwyr yn manteisio ar y canlynol:
- O leiaf chwe awr o hyfforddiant/ffitrwydd yr wythnos wedi'u goruchwylio gan hyfforddwyr cymwysedig UEFA.
- Defnyddio'r cyfleusterau ardderchog ym Mhentref Chwaraeon Prifysgol Abertawe, Canolfan Chwaraeon Elba, Canolfan Chwarae Pêl-droed a Chanolfan Chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe.
- Gall chwaraewyr a ddewiswyd gystadlu i Goleg Gŵyr Abertawe yn Uwch Gynghrair a Chynghrair Ranbarthol ECFA. Mae llwyddiannau diweddar yn cynnwys Pencampwyr rhanbarthol ECFA 2010-11 a 3ydd safle ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Colegau Prydain 2011.
- Trefnir gemau cystadleuol ychwanegol yng Nghwpan Ysgolion Cymru, Cwpan Colegau Cymru a chwpan ECFA.
- Bydd chwaraewyr Academi yn cynrychioli Colegau Cymru ac ysgolion Cymru yn rheolaidd mewn gemau rhyngwladol.
- Bydd chwaraewyr hefyd yn cael cyngor unigol ar hyfforddiant, maeth a seicoleg fel rhan o raglen yr Academi.
- Bydd pob chwaraewr Academi yn cael cyfle i ddilyn cwrs arweinydd pêl-droed gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
- Cysylltwch â richard.south@gowercollegeswansea.ac.uk
Academi Bêl-fasged
Bydd myfyrwyr yn manteisio ar y canlynol:
- O leiaf chwe awr o hyfforddiant/ffitrwydd yr wythnos wedi'u goruchwylio gan hyfforddwyr cymwysedig WNA.
- Defnyddio'r cyfleusterau ardderchog yng Nghanolfan Chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe, gan gynnwys neuadd chwaraeon a champfa llawn offer.
- Cystadlaethau elît rheolaidd yng nghynghrair Colegau Prydain a chystadlaethau cwpan. Bydd y tîm hefyd yn cystadlu yng nghwpan y llywydd a chystadlaethau Rhanbarthol Colegau Cymru.
- Teithiau rheolaidd dramor gan gynnwys teithiau diweddar i'r Caribî.
- Cyfleoedd i gynrychioli Colegau Cymru a Cholegau Prydain ar lefel ryngwladol.
- Bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i gwblhau dyfarniadau hyfforddi pêl-rwyd.
- Cysylltwch â sarah.lewis@gowercollegeswansea.ac.uk
Academi Rygbi
Mae Academi Rygbi Coleg Gŵyr yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth â'r Gweilch ac yn darparu cystadlaethau a hyfforddiant ar lefel elît i chwaraewyr dethol. Bydd myfyrwyr yn manteisio ar y canlynol:
- O leiaf chwe awr o hyfforddiant/ffitrwydd yr wythnos wedi'u goruchwylio gan hyfforddwyr cymwysedig Undeb Rygbi Cymru a staff hyfforddi'r Gweilch.
- Defnyddio'r cyfleusterau ardderchog ym Mhentref Chwaraeon Prifysgol Abertawe gan gynnwys canolfan athletau dan do a chyfleusterau cryfder a chyflyru.
- Mae'r Academi'n cystadlu yng nghynghrair colegau Undeb Rygbi Cymru, cynghrair ranbarthol Colegau Prydain, Cwpan BCS, rygbi saith-bob-ochr Rosslyn Park a rygbi saith-bob-ochr yr Urdd. Yn ogystal, mae'r Academi yn cymryd rhan mewn cystadlaethau gwahodd lefel elît.
- Teithiau tramor rheolaidd.
- Mae'r myfyrwyr yn cynrychioli Cymru yn gyson ar lefel grŵp oedran ac mewn rhai achosion ar lefel uwch. Mae'r cyn fyfyrwyr yn cynnwys Leigh Halfpenny (Gleision Caerdydd, Cymru a'r Llewod), Justin Tipuric (Gweilch a Chymru) a Richie Rees (Gleision Caerdydd a Chymru).
- Bydd cyfle gan bob myfyriwr gwblhau cymwysterau hyfforddi a chael profiad gwaith mewn ysgolion lleol.
- Cysylltwch â daniel.cluroe@gowercollegeswansea.ac.uk
Academi Griced
Bydd myfyrwyr yn manteisio ar y canlynol:
- Cyfle i fynychu sesiynau hyfforddiant criced ymarferol, ynghyd â chymorth gwyddor chwaraeon. Bydd pob sesiwn hyfforddi yn cael ei chynnal gan staff cymwysedig ECB, gan ddefnyddio cyfleusterau dan do ac awyr agored ardderchog. Trefnir sesiynau yn ystod y diwrnod coleg.
- Dilyn cymwysterau hyfforddi ECB Lefel 1 a Lefel 2 a chwrs dyfarnwr.
- Cynrychioli tîm y coleg mewn cyfres o gemau nodedig i'w chwarae yn nhymor yr haf.
- Posibilrwydd o daith dramor.
- Dilyniant i Addysg Uwch gyda'r posibilrwydd o gael ysgoloriaeth griced.
- Mae'r Cynllun Datblygu Criced yn cael ei gefnogi gan CBW ac wedi cael ei gyflwyno i ddatblygu’r cricedwr ifanc 16+.
- Dylai ymgeiswyr fod yn chwaraeon i safon dda. Bydd y rhai a dderbynnir yn parhau i fod yn aelodau o'u clybiau lleol.
- Cysylltwch â mike.obrien@gowercollegeswansea.ac.uk
Academi Hoci
Bydd myfyrwyr yn manteisio ar y canlynol:
- Darperir sesiynau hyfforddiant/ffitrwydd trwy gydol yr wythnos. Bydd pob sesiwn hyfforddi yn cael ei haddysgu gan hyfforddwyr cymwysedig WHU.
- Defnyddio'r cyfleusterau ardderchog ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe a Chanolfan Chwaraeon Elba - dŵr a thywod.
- Caeau astro i ehangu eich sgiliau hoci sylfaenol.
- Mae prynhawn Mercher yn cael ei neilltuo ar gyfer chwarae gemau. Cewch eich dewis i gynrychioli'r Academi mewn nifer o gystadlaethau wedi'u trefnu (Cynghrair Colegau ac Ysgolion Bonedd Cymru, Cystadleuaeth Merched Colegau Cymru, Cwpan Dan 18 Hoci Merched Ysgol Afan, Nedd a Thawe, Cwpan Prydain Dan 19, Cynghrair Colegau Prydain). Bydd gemau yn erbyn academïau eraill yng Nghymru a Lloegr hefyd yn rhan o gemau cartref ac i ffwrdd.
- Mae chwaraewyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn hoci clwb ar y penwythnos i wireddu eu potensial llawn (Merched Abertawe, Merched Tre-gŵyr).
- Defnydd llawn o gyfleusterau ffitrwydd y coleg.
Gall pob aelod o'r Academi ddilyn:
- Cymhwyster Dyfarniad Hyfforddi Arweinwyr WHU - bydd yr hyfforddwr mwy cymwys yn cael ei annog i fynd ymlaen i ddilyn Dyfarniad Ieuenctid (18 a throsodd).
- Dyfarniad Arweinwyr Dyfarnu - yr un peth â'r uchod.
- Pan fyddant wedi ennill eu cymhwyster hyfforddi, bydd yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr weithio gyda phlant ysgol gynradd a'u hyfforddi ac efallai cael swydd yn gweithio i adran datblygu chwaraeon lleol yn Ninas a Sir Abertawe.
- Cysylltwch â sian.fowler@gowercollegeswansea.ac.uk
Yn ogystal â'r brif academi, gall myfyrwyr chwaraeon hefyd gystadlu ar y lefel uchaf a hyfforddi yn y campau canlynol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe:
Pêl-fasged
Cystadleuaeth lefel elît yng nghynghreiriau BCS a hyfforddiant wedi'i ddarparu mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-fasged Swansea Storm.
Syrffio
Hyfforddiant rheolaidd gan hyfforddwyr achrededig ASI ar draethau lleol trwy gydol y flwyddyn. Cystadlaethau mewn digwyddiadau BCS a rhai annibynnol.
Chwaraeon Colegau Cymru
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ymgysylltu â Chwaraeon Colegau Cymru - mae hyn yn darparu cystadleuaeth i fyfyrwyr yn y campau ychwanegol canlynol - pêl-foli, nofio, tennis, sboncen, badminton, tennis bwrdd, rhedeg trawsgwlad, trampolinio a golff.
Cysylltwch â rob.baynham@gowercollegeswansea.ac.uk












