Partneriaeth Addysg Gymunedol Cenia

Rydym yn darparu cyllid ar gyfer ysgol ym Madungu, Gorllewin Cenia, lle rydym yn ceisio gwneud gwahaniaeth i fywydau’r disgyblion.
Mae’ch cyfraniad chi, ni waeth pa mor fawr neu fach, yn mynd ymhell i gefnogi ein cenhadaeth. Helpwch ni i ddarparu cyflogau i’r staff a phrydau maethlon i’r disgyblion ifanc hyn, a chyda’n gilydd gallwn greu dyfodol disgleiriach!
Rhoddwch heddiw

student helps at Madungu primary school

Yn 2002, sefydlodd y Coleg elusen - Partneriaeth Addysg Gymunedol Cenia - er mwyn darparu cyllid ar gyfer ysgol gynradd ym Madungu, Gorllewin Cenia. Gyda’r arian a godwyd, mae’r ysgol wedi gallu talu cyflogau dau aelod o staff yn ogystal â chinio ar gyfer ei disgyblion.

Cyfle anhygoel i ymweld â Chenia yn 2024


 

Wythnos 1

Byddwn yn hedfan i Nairobi, ac yn treulio ein noson gyntaf mewn maes gwersylla diogel. Y diwrnod wedyn, byddwn yn mynd ar daith wyth awr mewn bws i Madungu lle byddwn yn aros mewn pebyll/llety hostel diogel am wythnos, a bydd yr holl fwyd yn cael ei ddarparu.
Byddwn yn treulio’r rhan fwyaf o’r wythnos gyntaf yn yr ysgol, ond rydym yn bwriadu ymweld â sefydliadau addysgol eraill hefyd. Yn yr ysgol, byddwn i gyd yn gwneud rhywfaint o addysgu (byddwch wrth eich boddau) naill ai yn unigol neu mewn grwpiau, a byddwch hefyd yn helpu gyda gwaith cynnal a chadw, peintio ac addurno efallai neu adeiladu gwelyau blodau.

Wythnos 2

Ar ôl ffarwelio â’n gwesteiwyr, a fydd yn eithaf emosiynol rwy’n siŵr, byddwn yn mynd ar saffari wedi’i drefnu – i’r Masai Mara ac yna ymlaen i Lyn Naivasha – lle byddwn yn aros mewn pebyll diogel gyda’r hwyr, ac eto bydd yr holl fwyd yn cael ei ddarparu.

Yn ystod yr ail wythnos, sy’n cynnwys y saffari, bydd rhaid i ni ein hariannu ein hunain.
Hoffem gynnig y cyfle gwych hwn i bob myfyriwr sydd naill ai wedi cyfrannu at y gwaith o redeg yr elusen neu at un o’r digwyddiadau codi arian niferus sy’n cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn.
Eisiau cymryd rhan? E-bostiwch: kcep@gcs.ac.uk
 

Mae’r Coleg wedi derbyn cyllid i bedwar aelod o staff a 10 myfyriwr fynd ar y daith. Dylai hyn dalu am yr holl hediadau a’r teithio, llety a bwyd ac ati am yr wythnos gyntaf. Bydd rhaid i bob myfyriwr cytuno i’r Cod Ymddygiad a’i lofnodi a chael yr holl frechiadau angenrheidiol. Mae’n bosibl y bydd rhaid iddynt ariannu cost yr ail wythnos eu hunain trwy weithgareddau codi arian pellach.

Mae’r trip yn addo bod yn brofiad anhygoel! Rwy’n siŵr y bydd Wythnos 1 yn agoriad llygad – gweithio mewn gwlad sydd â llai o’r pethau rydym wedi dod i’w disgwyl yn y DU, ond gyda staff a disgyblion y bydd eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad mor ysbrydoledig.
Ac mae Wythnos 2 yn gyfle i weld bywyd gwyllt byd-enwog Cenia yn ei amgylchedd naturiol.

Rhif Elusen: 20150916 KM:1163597 CRM: 0001220