
Prosiect Cenia

Cafodd Prosiect Cenia ei sefydlu yn 2003 ac mae’n cael ei reoli yn bennaf gan fyfyrwyr.
Nod y prosiect yw codi arian i gynnal rhaglen fwydo ar gyfer dros 120 o’r disgyblion tlotaf yn Ysgol Gynradd Madungu. Hefyd, mae’n bwriadu talu cyflog dwy athrawes a rhoi amrywiaeth o ddeunyddiau addysgol iddyn nhw.
Mae’r coleg yn cynnal Diwrnod Prosiect Cenia blynyddol ond mae digwyddiadau codi arian yn parhau drwy gydol y flwyddyn.












