Canolfan Ffordd y Brenin

Canolfan Ffordd y Brenin
Ffordd y Brenin
Abertawe
SA1 5LS
Ffôn: 01792 284450

Oriau Agor
Yn ystod y tymor
Llun a Mercher -  8.30am - 9pm
Mawrth, Iau a Gwener – 8.30am - 4.30pm

Yn ystod y gwyliau
Llun - Iau - 8.30am - 4.30pm
Gwener - 8.30pm - 4.30pm

Canolfan Ffordd y Brenin yw ein canolfan canol dinas lle rydym yn cynnal dosbarthiadau ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) a Sgiliau Hanfodol.

Sgiliau Hanfodol
Gallwn ni eich helpu chi i wella eich sgiliau darllen, ysgrifennu, sillafu a gweithio gyda rhifau.  Gall hyn i gyd eich helpu chi i: 

  • Ennill cymhwyster neu fagu hyder
  • Cwblhau ffurflenni cais
  • Helpu’ch plant gyda gwaith cartref
  • Pasio eich prawf gyrru theori
  • Cael y swydd rydych chi am ei chael

Yn ein dosbarthiadau Gwella Sgiliau Saesneg a Mathemateg gallwch chi ddysgu fel y dymunwch gyda’ch cynllun dysgu eich hun.  Gallwch fynychu sesiynau byr neu weithio mewn grwpiau bach ac mae cyfleoedd i gael sesiynau un-i-un.  Gallwch chi hefyd ennill cymhwyster os oes angen. Gall myfyrwyr weithio tuag at gymwysterau sgiliau hanfodol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif neu TGCh (gan ddefnyddio cyfrifiaduron). Gall y cymwysterau amrywio o'r lefel fwyaf sylfaenol i Lefel 2 (cywerth â TGAU). Gall y cyrsiau hyn fod yn gam cyntaf yn ôl i addysg, gallan nhw wella rhagolygon swyddi neu helpu rhieni i gefnogi eu plant yn yr ysgol. Mae'r holl gyrsiau sgiliau hanfodol AM DDIM. Cysylltwch â Chanolfan Ffordd y Brenin i drefnu cyfweliad un i un i drafod eich gofynion.

Mae’r ddarpariaeth Dysgu Seiliedig ar Waith hefyd yn cael ei haddysgu yng Nghanolfan Ffordd y Brenin.

Gower College Swansea
From September 2012, there will be several important changes to the provision of curriculum for new...
Gower College Swansea
A joint project from the National Theatre of Wales and Frantic Assembly, the college has supported this ...
Jobs Fair at Gower College Swansea
Jobs Fayre @ Tycoch campus (common room). Thursday 24th May, 10am to 3.30pm Representation from the...
Swans star Joe Allen has signed-up for a new scheme to inspire and reward young people. The Wales midfielder...
Level 2 Art and Design students at Llwyn y Bryn recently took part in a two day workshop with artist Mary...