Llwyn y Bryn

Coleg Gwyr Abertawe

Llwyn y Bryn
77 Heol Walter
Abertawe
Ffôn: 01792 284021
Ffacs: 01792 645681

Oriau Agor
Yn ystod y tymor
Llun - Iau - 8.30am - 9pm
Gwener - 8.30am - 4.30pm

Yn ystod y gwyliau
Llun - Iau - 8.30am - 5pm
Gwener - 8.30am - 4.30pm

Mae'n hawdd cerdded i gampws Llwyn y Bryn o ganol dinas Abertawe ac mae cysylltiadau cludiant gwych i’r ddinas ac i’r prif gampws yn Nhycoch.

Daw myfyrwyr i gampws Llwyn y Bryn i astudio amrywiaeth o feysydd gan gynnwys y Cyfryngau, Ffasiwn, Ffotograffiaeth a Cherddoriaeth.

Mae nifer o'r cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus fel actorion, dawnswyr a ffotograffwyr.

Mae'r cyfleusterau diweddaraf un ar gael i’r myfyrwyr ar y campws sydd wedi’i leoli o fewn adeilad hardd o ddechrau'r ugeinfed ganrif a fu unwaith yn Ysgol Uwchradd i Ferched.

Mae campws Llwyn y Bryn yn darparu stiwdios arbenigol ar gyfer astudio Cerameg, Ffasiwn a Chelf Graffig. Mae ein hystafelloedd tywyll digidol yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf i'r myfyrwyr Ffotograffiaeth a gall myfyrwyr y Cyfryngau fanteisio i'r eithaf ar y stiwdios cynhyrchu radio a theledu.  Mae stiwdio recordio llawn offer yn golygu y gall myfyrwyr gynhyrchu cerddoriaeth wreiddiol.

Mae Canolfan Adnoddau Dysgu fodern ac amlgyfrwng yn cynnig lle tawel i’r myfyrwyr astudio ac adolygu.

Diweddarwyd Hydref 2012

Join us at Llwyn y Bryn at 7pm on Thursday 23rd May for our annual Film Festival - just £2.50 per ticket Our...
A Level students from Gower College Swansea have successfully competed in an annual ‘Chemistry Olympiad...
A ‘potted’ version of the Shakespearian classic performed by our One Year Acting course students...
A musical based upon the songs of Madness featuring all our Year 2 BTEC Performing Arts students....
Steve Williams, Curriculum Leader for Digital Technology at Gower College Swansea, has won a prestigious...