
Cadw lle ar gwrs
I gadw lle ar un o’n cyrsiau ffoniwch 01792 284400 neu anfonwch e-bost
Gallwch chi gofrestru ar rai o’n cyrsiau ar-lein [ond dim ond os NAD oes angen cyfweliad.]
Os ydych chi’n cadw lle ar gwrs dros y ffôn dylech chi gadarnhau drwy ysgrifennu atom o fewn 10 diwrnod. Byddwn ni’n ystyried eich lle yn un dros dro nes ein bod ni’n cael eich cadarnhad ysgrifenedig.
Byddwch chi’n cael cyfarwyddiadau ar sut i ymuno â chwrs saith diwrnod cyn dechrau’r cwrs i’ch atgoffa o enw, dyddiad, amser a lleoliad y cwrs.
Rydym ni’n cydnabod bod gwahanol ofynion hyfforddi gan gwmnïau ac rydym ni wedi datblygu amrywiaeth o wahanol ddewisiadau i ymateb i’ch anghenion.
Mae nifer o’n cyrsiau wedi’u hachredu gan gyrff dyfarnu cenedlaethol felly gallwch chi fod yn ffyddiog bod ein cyrsiau o’r safon uchaf ac yn diwallu gofynion diwydiant cyfredol.
Mae’n bwysig sicrhau bod eich staff yn dilyn cwrs ar lefel sy’n addas iddyn nhw. I’ch helpu chi i ddewis y lefel iawn, mae’r tabl isod yn rhoi canllaw i’r sgiliau y mae’r cyrsiau ar wahanol lefelau yn eu cynnig.
|
Lefelau sgiliau |
|
|
Lefel sgiliau |
Beth mae’r cymhwyster yn ei wneud? |
|
Dim gwybodaeth flaenorol |
Rhoi gwybodaeth a sgiliau sylfaenol |
|
Wedi cwblhau Lefel Mynediad |
Rhoi gwybodaeth a sgiliau sylfaenol |
|
Wedi cwblhau cwrs Lefel 1 neu wedi ennill gradd TGAU yn ddiweddar [gradd D-G] |
Rhoi gwybodaeth dda a dealltwriaeth dda o’r pwnc |
|
Wedi cwblhau Lefel 2 [h.y. TGAU, NVQ, Sgiliau Allweddol, BTEC, OCR] |
Datblygu gwybodaeth a sgiliau manwl |
|
Wedi cwblhau Lefel 3 neu Safonau Uwch |
Cynnwys dysgu arbenigol |
|
Wedi cwblhau Lefel 4 neu wedi ennill HNC, HND neu radd |
Cynyddu manylder gwybodaeth a dealltwriaeth o’r pwnc |
|
Wedi cwblhau Lefel 5 neu wedi ennill cymwysterau ôl-radd |
Cynnwys gwybodaeth arbenigol, lefel uchel o’r pwnc |
Pa fath o gwrs fyddai’n gweddu orau i chi?
Cyrsiau byr = mae gennym ni ddewis o gyrsiau un i bum diwrnod y gallwch chi fanteisio arnyn nhw i ddatblygu’ch staff mewn meysydd sgiliau penodol.
Datblygu sgiliau hirdymor = gall ein rhaglenni NVQ, wedi’u lleoli yn y gweithle, helpu’ch tîm i fagu hyder a sefydlu arfer gorau. Mae dyddiadau dechrau yn hyblyg ar gyfer pob rhaglen NVQ.
Datblygiad proffesiynol = efallai y byddwch chi am fuddsoddi yn natblygiad proffesiynol eich tîm a gallwn ni ddarparu cyrsiau hir i sicrhau cymwysterau proffesiynol.
Cyrsiau wedi’u teilwra = er bod gennym ni amrywiaeth eang o gyrsiau, efallai y bydd angen hyfforddiant arnoch chi sy’n bwrpasol i’ch anghenion penodol chi weithiau. Cysylltwch â ni i drafod y dewisiadau - gallwn ni weithio gyda chi i ddatblygu cwrs sy’n ddelfrydol i’ch anghenion chi.











