Cymorth ariannol

Mae costau’r cyrsiau i’w gweld yn rhestrau’r cyrsiau. Yn y rhan fwyaf o achosion mae un ffi cwrs yn talu am gostau gweinyddol, arholiadau [ac eithrio ailsefyll arholiadau], costau ardystio, defnyddio Parthau Dysgu’r Coleg a rhai costau adnoddau ar gyfer pob blwyddyn astudio.*

Dydyn nhw ddim yn cynnwys unrhyw ffioedd aelodaeth cyrff proffesiynol a rhaid i ymgeiswyr dalu am ailsefyll arholiadau.

* Efallai bydd costau pellach ar rai cyrsiau i dalu am offer ychwanegol e.e. cyrsiau trin gwallt, harddwch a holisteg. Byddwn ni’n esbonio unrhyw gostau ychwanegol yn ystod y cyfweliad/adeg cofrestru.

Mae disgowntiau grŵp ar gael. Cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn ni weithio gyda chi i gwtogi costau’r cyrsiau a ddewisir i grwpiau o staff.

Mae amrywiaeth o ddulliau ariannu ar gael i chi neu’ch gweithwyr allu lleihau costau hyfforddi. Gallwn ni drafod costau hyfforddi â chi yn dibynnu ar y cyllid allanol a allai fod ar gael.

Cyllid i gyflogwyr
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith
Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae pob busnes yng Nghymru yn gymwys. Mae’n cynnig cyfle i chi ddysgu sgiliau newydd wrth weithio. Mae rhaglenni hyfforddi’n cynnwys prentisiaethau [fel arfer am ddim] ac amrywiaeth eang o NVQs.

ELC – Credydau Dysgu Estynedig
Mae’r Cynllun Credydau Dysgu Estynedig (ELC) yn un o fentrau’r Weinyddiaeth Amddiffyn i hyrwyddo dysgu gydol oes ymhlith aelodau o’r Lluoedd Arfog. Mae’n rhoi cymorth ariannol drwy un taliad ymlaen llaw ym mhob blwyddyn ariannol ar wahân hyd at uchafswm o dair blynedd. Mae arian ELC ar gael dim ond i’r rhai sy’n ymgymryd â dysgu ar lefel uwch h.y. ar gyfer cyrsiau sy’n arwain at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol ar Lefel 3 neu uwch ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (NQF)(Cymru a Lloegr), Lefel 6 neu uwch ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau yr Alban (SCQF) neu, os ydych chi’n astudio dramor, cymhwyster rhyngwladol cywerth cymeradwy.

GO Wales – Cronfa Hyfforddi a Datblygu Graddedigion
Gall GO Wales gynnig hyd at £5,000 i fusnesau bach i ganolig yng Nghymru tuag at gost hyfforddi aelodau o staff sydd wedi ennill gradd, HND, HNC neu’r cywerth. Gall pob gweithiwr cymwys hawlio hyd at £1,500. Ariennir GO Wales gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop i helpu datblygu busnesau yng Nghymru. Rhaid cwblhau pob hyfforddiant erbyn mis Medi 2011. Mae telerau ac amodau’n gymwys - www.gowales.co.uk/cy

Benthyciad Datblygu Gyrfa
Mae dysgwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd addysgol a chyflogaeth [cyflogedig, hunangyflogedig a di-waith] yn gymwys. Gallwch chi fenthyca unrhyw beth rhwng £300 ac £8,000 i helpu ariannu hyd at ddwy flynedd o ddysgu a hyd at dair blynedd os yw’r cwrs yn cynnwys blwyddyn o brofiad gwaith ymarferol perthnasol. Mae’r Cyngor Dysgu a Sgiliau (LSC) yn talu’r llog ar eich benthyciad tra byddwch chi'n dysgu ac am fis ar ôl i’r hyfforddiant orffen. Byddwch chi’n ad-dalu’r benthyciad i’r banc dros gyfnod y cytunir arno ar gyfradd llog sefydlog.

Grant Dysgu’r Cynulliad
Mae’r grant hwn yn helpu pobl o deuluoedd incwm isel i gael mynediad i addysg bellach. Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r grant ac mae’n cael ei dalu drwy eich Awdurdod Addysg Lleol. Bwriad y grant yw talu am lyfrau, offer, teithio a gofal plant tra byddwch chi’n astudio. I fod yn gymwys: 

  • rhaid i gyfanswm eich incwm teulu fod yn llai na £17,700 y flwyddyn
  • rhaid i chi fod yn 19 oed neu’n hŷn ar 1 Medi 2010
  • rhaid i’r cwrs rydych chi'n ei astudio gynnwys 275 o oriau addysgu y flwyddyn.

Arian ReAct
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu’r rhaglen ReAct, ac mae’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Arian i recriwtiaid newydd
Mae Cymorth Recriwtio i Gyflogwyr yn gymhelliad sydd ar gael i gyflogwyr sy’n recriwtio unigolion sydd wedi colli swydd yn ystod y chwe mis diwethaf. Bydd cyflogwyr yn cael £3,000 am gyflogi rhywun dros 25 awr yr wythnos a £1,500 am gyflogi rhywun rhwng 16-25 awr yr wythnos.

Mae Cymorth Hyfforddi i Gyflogwyr hefyd ar gael ochr yn ochr â Chymorth Recriwtio i Gyflogwyr. Bydd ReAct yn talu 50% o’r gost hyfforddi hyd at uchafswm o £1,000 tuag at gost hyfforddiant sy’n berthnasol i swydd y recriwt newydd. Rhaid i ReAct gymeradwyo cais am gymorth cyn i’r darpar weithiwr ddechrau cyflogaeth gyda’r busnes. I gael rhagor o wybodaeth am gyllid ReAct neu i gael ffurflen gais ffoniwch y tîm ReAct ar 01792 765888.

ReAct – Hyfforddiant Galwedigaethol
Mae cyfraniad o hyd at £1,500 ar gael tuag at gost cyrsiau hyfforddiant galwedigaethol sydd wedi’u cysylltu â diwydiannau sector sy’n tyfu neu lle mae cynnig swydd yn dibynnu ar gwblhau cwrs neu dystysgrif benodol. Gall ReAct hefyd gynnig cymorth ychwanegol gyda hyfforddiant galwedigaethol hyd at gost o £200 sy’n cynnwys cymorth ar gyfer teithio, gofal plant a llety os oes angen tra byddwch chi’n hyfforddi.

Rhaid i ReAct gymeradwyo eich cais am gymorth cyn i chi ddechrau eich hyfforddiant galwedigaethol. I gael rhagor o wybodaeth am gyllid ReAct neu i gael pecyn cais cysylltwch â Gyrfa Cymru neu learndirect.

Diweddarwyd Rhagfyr 2011

Gower College Swansea
From September 2012, there will be several important changes to the provision of curriculum for new...
Gower College Swansea
A joint project from the National Theatre of Wales and Frantic Assembly, the college has supported this ...
Jobs Fair at Gower College Swansea
Jobs Fayre @ Tycoch campus (common room). Thursday 24th May, 10am to 3.30pm Representation from the...
Swans star Joe Allen has signed-up for a new scheme to inspire and reward young people. The Wales midfielder...
Level 2 Art and Design students at Llwyn y Bryn recently took part in a two day workshop with artist Mary...