Prentisiaethau

Mae rhaglenni Prentisiaeth yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac maen nhw'n rhoi cyfle i chi gael profiad a chymwysterau wrth i chi weithio. Maen nhw ar gael i unrhyw un sy’n hŷn nag 16 oed ac ni fydd rhaid i chi dalu ceiniog!


Pa raglenni sydd ar gael?

  • Prentisiaeth Sylfaenol (Lefel 2)
  • Prentisiaeth (Lefel 3)
  • Prentisiaethau Uwch (Lefel 4)


Pa lwybrau gyrfa sydd ar gael?

  • Cyfrifeg
  • Gofal Plant
  • Gwasanaeth Cwsmeriaid
  • Technoleg Ddigidol (Electroneg)
  • Peirianneg Drydanol
  • Gosodiadau Trydanol
  • Trin Gwallt
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Peirianneg Fecanyddol
  • Y Cyfryngau a Dylunio
  • Cerbydau Modur
  • Perfformio Gweithrediadau Gweithgynhyrchu
  • Plymwaith
  • Weldio a Ffabrigo
  • Adwerthu


Pwy sy’n gallu gwneud cais?

  • 16+ ac yn gobeithio ennill cymwysterau a chael profiad gwaith;
  • gadael yr ysgol a chwilio am hyfforddiant y tu allan i’r ystafell ddosbarth;
  • dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod o ddiweithdra;
  • ystyried newid eich gyrfa;
  • wynebu colli’ch swydd;
  • ystyried datblygu’ch busnes eich hunan; neu
  • ystyried ennill cymwysterau yn eich swydd bresennol.


Beth yw’r manteision?

  • ennill cyflog;
  • cael profiad yn y sector rydych am weithio ynddo;
  • ennill cymwysterau (e.e. QCF, NVQ, BTEC a City & Guilds) i ddatblygu’ch gyrfa;
  • datblygu’ch sgiliau hanfodol (TGCh, cymhwyso rhif, gweithio gydag eraill, gwella’ch dysgu’ch hunan, datrys problemau a chyfathrebu) ar gyfer y byd go iawn; a
  • gwella’ch cyfle o gael eich cyflogi.


I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r canlynol:
Tycoch (01792 284000)
Gorseinon (01792 893054)
E-bost: apprenticeships@gowercollegeswansea.ac.uk

Gower College Swansea
From September 2012, there will be several important changes to the provision of curriculum for new...
Gower College Swansea
A joint project from the National Theatre of Wales and Frantic Assembly, the college has supported this ...
Jobs Fair at Gower College Swansea
Jobs Fayre @ Tycoch campus (common room). Thursday 24th May, 10am to 3.30pm Representation from the...
Swans star Joe Allen has signed-up for a new scheme to inspire and reward young people. The Wales midfielder...
Level 2 Art and Design students at Llwyn y Bryn recently took part in a two day workshop with artist Mary...