
Prentisiaethau
Mae rhaglenni Prentisiaeth yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac maen nhw'n rhoi cyfle i chi gael profiad a chymwysterau wrth i chi weithio. Maen nhw ar gael i unrhyw un sy’n hŷn nag 16 oed ac ni fydd rhaid i chi dalu ceiniog!
Pa raglenni sydd ar gael?
- Prentisiaeth Sylfaenol (Lefel 2)
- Prentisiaeth (Lefel 3)
- Prentisiaethau Uwch (Lefel 4)
Pa lwybrau gyrfa sydd ar gael?
- Cyfrifeg (ffioedd aelodaeth yn daladwy)
- Gofal Plant
- Technoleg Ddigidol (Electroneg)
- Peirianneg Drydanol
- Gosodiadau Trydanol
- Peirianneg Cynnal a Chadw
- Peirianneg Cymorth Technegol
- Mwynau Echdynnol (Mwyngloddio)
- Gwasanaethau Ariannol
- Peirianneg Nwy
- Trin Gwallt
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Peirianneg Fecanyddol
- Cerbydau Modur
- Perfformio Gweithrediadau Gweithgynhyrchu
- Plymwaith
- Theatr Dechnegol
- Weldio a Ffabrigo
Pwy sy’n gallu gwneud cais?
- 16+ ac yn gobeithio ennill cymwysterau a chael profiad gwaith;
- gadael yr ysgol a chwilio am hyfforddiant y tu allan i’r ystafell ddosbarth;
- dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod o ddiweithdra;
- ystyried newid eich gyrfa;
- wynebu colli’ch swydd;
- ystyried datblygu’ch busnes eich hunan; neu
- ystyried ennill cymwysterau yn eich swydd bresennol.
Beth yw’r manteision?
- ennill cyflog;
- cael profiad yn y sector rydych am weithio ynddo;
- ennill cymwysterau (e.e. QCF, NVQ, BTEC a City & Guilds) i ddatblygu’ch gyrfa;
- datblygu’ch sgiliau hanfodol (TGCh, cymhwyso rhif, gweithio gydag eraill, gwella’ch dysgu’ch hunan, datrys problemau a chyfathrebu) ar gyfer y byd go iawn; a
- gwella’ch cyfle o gael eich cyflogi.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r canlynol:
Tycoch (01792 284000)
Gorseinon (01792 890700)
E-bost: apprenticeships@gowercollegeswansea.ac.uk












