Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth

Mae prosiectau Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn cael eu hariannu gan y Llywodraeth ac yn gyfle i sefydliadau (busnesau, y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol) gydweithredu mewn gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth.

Bydd myfyriwr graddedig sydd newydd gymhwyso yn gweithio yn y sefydliad a bydd academydd o'r coleg yn gweithio gydag ef neu hi i gyflawni nodau’r prosiect PTG.  Mae’r bartneriaeth dair ffordd hon o fudd i’r sefydliad, y myfyriwr graddedig a’r coleg.

Drwy gymryd rhan mewn Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth gall cwmni neu sefydliad:

  • Gael mynediad i bobl gymwys sy’n llywio prosiectau newydd
  • Cael mynediad i arbenigwyr o’r coleg
  • Datblygu atebion arloesol i broblemau busnes
  • Cynyddu ei fantais gystadleuol
  • Cynyddu proffidioldeb
  • Tyfu

Ar gyfartaledd, bydd prosiect PTG â’r coleg yn creu cynnydd blynyddol mewn elw o £220,000 cyn treth, creu tair swydd newydd a gwella sgiliau staff presennol.

Pam PTG â Choleg Gŵyr Abertawe?
Y coleg yw'r sefydliad addysg bellach mwyaf yn y DU sy'n darparu prosiectau hyn ac mae wedi datblygu a darparu'r dros 90 o brosiectau ac ennill sawl gwobr.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r adran PTG ar 01792 284440.

Gower College Swansea
From September 2012, there will be several important changes to the provision of curriculum for new...
Gower College Swansea
A joint project from the National Theatre of Wales and Frantic Assembly, the college has supported this ...
Jobs Fair at Gower College Swansea
Jobs Fayre @ Tycoch campus (common room). Thursday 24th May, 10am to 3.30pm Representation from the...
Swans star Joe Allen has signed-up for a new scheme to inspire and reward young people. The Wales midfielder...
Level 2 Art and Design students at Llwyn y Bryn recently took part in a two day workshop with artist Mary...