Addewid y Cyflogwr

Mae'r CBI yn amcangyfrif bod sgiliau mathemateg a chyfathrebu gwael yn costio £588 miliwn y flwyddyn i economi busnes Cymru. Mae'r costau hyn yn codi am sawl rheswm:

  • Camgymeriadau wrth gyfrifo
  • Negeseuon wedi'u trosglwyddo yn anghywir⁄camddealltwriaeth
  • Cysylltiadau cwsmeriaid gwael
  • Gwastraff – amser ac adnoddau
  • Gwrthod cyfrannu at gyfarfodydd
  • Amharodrwydd i fod yn gyfrifol
  • Anawsterau gyda chyfarwyddiadau ysgrifenedig
  • Ofn technoleg

Mae gwaith ymchwil yn dangos bod 50% o oedolion sydd ag angen cymorth ychwanegol gyda'u sgiliau cyfathrebu a mathemateg yn gweithio. Mae'r datblygiadau parhaus mewn technoleg y gweithle ac arferion gwaith yn golygu bod angen i weithwyr ddiweddaru eu sgiliau yn gyson.

Mae’r coleg yn gallu gweithio gyda chi i hwyluso gweithdai a all wella sgiliau cyfathrebu a rhifedd eich gweithwyr. Bydd y gweithdai hyn yn helpu gweithwyr sydd â sgiliau isel a gallan nhw helpu i wella sgiliau rheolwyr canol o ran gwneud cyflwyniadau, ysgrifennu adroddiadau ac ati.

Gallwn ni:

  • Ddatblygu a chyflwyno rhaglen heb unrhyw gost i chi er mwyn mynd i'r afael â'ch anghenion arbennig
  • Cytuno ar amserlenni i gyflwyno'r rhaglen ar y safle er mwyn ateb eich gofynion cynhyrchu
  • Cytuno ar sut i hybu'r rhaglen i'ch staff.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'n Cydlynydd Addewid y Cyflogwr, Lynda Cole ar 01792 222089 neu anfonwch e-bost

The South West Wales Lion’s Lair final took place recently at the Dylan Thomas Centre, Swansea. A...
GCS
Gower College Swansea has two upcoming open evenings for those looking to start a part time course this...
ColegauCymru - the national organisation representing all 17 further education (FE) colleges and two FE...
These exhibitions are the culmination of this year's work from the Visual Arts students at Llwyn Y Bryn....
GCS
Welsh Bacc students have taken part in a fundraising project to raise money for SOS AFRICA with the key goal...