
Dewisiadau cwrs
Mae gennym dîm ymroddedig o ddarlithwyr sy'n darparu cyrsiau i fyfyrwyr 14-16 oed fel rhan o'u dewisiadau TGAU Blwyddyn 10 ac 11 [wedi'u cyfeirio gan eu hysgol.]
Mae ein rhaglen o gyrsiau wedi cael ei datblygu i ymateb yn uniongyrchol i'r anghenion sgiliau penodol a nodwyd gan sectorau diwydiant. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Chwaraeon a Hamdden
- Gwasanaethau Cyhoeddus
- Gweinyddu, Busnes a Chyfrifeg
- Lletygarwch ac Arlwyo
- Teithio a Thwristiaeth
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gwirfoddoli yn y Gymuned
- Trin Gwallt
- Technoleg Ddigidol
- Cerbydau Modur
- Peirianneg
Mae'r cyrsiau hyn yn sylfaen gref ar gyfer cynlluniau gyrfa yn y dyfodol ac yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddysgu sgìl sydd heb gael ei addysgu yn yr ysgol [e.e. trin gwallt, adwerthu neu beirianneg.] I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Helen Lewis trwy anfon ebost i helen.lewis@gowercollegeswansea.ac.uk neu ar 01792 284000.












