Mynediad

Mae ein rhaglenni Mynediad wedi cael eu datblygu i redeg dros un, dwy neu dair blynedd yn dibynnu ar anghenion academaidd myfyrwyr.

Rydym ni’n cynnig:

Cynhelir cyrsiau Mynediad amser llawn dros gyfnod o 34 wythnos [tri neu bedwar diwrnod astudio]

Rydym ni hefyd yn cynnig y cyrsiau [cynllun carlam] rhan-amser hyn...

Nod y rhaglenni yw: 

  • Denu myfyrwyr hŷn sydd wedi penderfynu newid gyrfa neu sy’n dychwelyd i astudio ar ôl cael seibiant
  • Ategu cymwysterau Safon Uwch neu gyrsiau BTEC a enillwyd eisoes er mwyn cael lle ar gwrs addysg uwch
  • Darparu llwybr carlam i fyfyrwyr sy’n awyddus i symud ymlaen i gwrs addysg uwch

Rhaglenni modiwlar yw'r rhain sy'n golygu y gall myfyrwyr ddilyn llwybrau astudio unigol. Gall ein staff roi cyngor i chi ar y llwybr gorau i’w ddilyn.

Gofynion mynediad
Rydym ni’n pwyso a mesur pob cais. Does dim angen cymwysterau ffurfiol arnoch chi i gofrestru ar gwrs Mynediad i Addysg Uwch ond rydym ni’n disgwyl i chi ddangos ymrwymiad i’ch maes astudio a brwdfrydedd dros y llwybr o’ch dewis.

Arian
Mae arian Grant Dysgu’r Cynulliad (GDC) ar gael i’r myfyrwyr sy’n dilyn cwrs Mynediad amser llawn neu ran-amser. Hefyd mae consesiynau ar gael ar gyfer y cwrs Cyn-fynediad i’r rhai sy’n cael budd-daliadau.

Ceisiadau
Cysylltwch â Suzanne Arnold drwy'r e-bost i wneud cais am ein cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch.

Diweddarwyd Mawrth 2013

Join us at Llwyn y Bryn at 7pm on Thursday 23rd May for our annual Film Festival - just £2.50 per ticket Our...
A Level students from Gower College Swansea have successfully competed in an annual ‘Chemistry Olympiad...
A ‘potted’ version of the Shakespearian classic performed by our One Year Acting course students...
A musical based upon the songs of Madness featuring all our Year 2 BTEC Performing Arts students....
Steve Williams, Curriculum Leader for Digital Technology at Gower College Swansea, has won a prestigious...