Cyn-fynediad

Mae’r rhaglen Cyn-fynediad wedi cael ei chreu i helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol er mwyn cwblhau’r cyrsiau Mynediad yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Mae’r cwrs Cyn-fynediad wedi cael ei lunio i roi cyflwyniad cyffredinol i fyd addysg Mynediad, ac felly mae'n rhoi cyfle i fyfyrwyr ddewis o wyth llwybr.

‘Blas’ ar fywyd coleg yw’r cwrs Agored Cymru hwn a bydd yn rhoi sgiliau rheoli amser a hyder i fyfyrwyr. Bydd hefyd yn gwella eu gallu i ysgrifennu’n academaidd, sgiliau cyflwyno a thrin a thrafod materion pwysig.

Mae’r cwrs yn cynnwys pedair uned ar Lefel 2. Er mwyn cwblhau’r cwrs a symud ymlaen i’r cwrs Mynediad Addysg Uwch, rhaid i’r myfyriwr ennill o leiaf dair uned ar Lefel 2:

  • Cyflwyniad i seicoleg
  • Sgiliau ymchwil ac astudio effeithiol
  • Cymhwyso rhif: Dehongli a chyflwyno gwybodaeth
  • Technoleg Gwybodaeth

Asesir y cwrs gan ddefnyddio traethodau, cyflwyniadau, adroddiadau ac asesiadau wedi’u hamseru yn y dosbarth. Mae’r cwrs rhan-amser yn cynnwys pum awr o astudio yr wythnos dros un sesiwn (naill ai gyda’r nos neu yn ystod y dydd.)

Gofynion mynediad
Oherwydd gofynion y rhaglen Lefel 1/2 hon a’r disgwyliadau i symud ymlaen i Lefel 3, yn ystod y cyfweliad disgwylir i fyfyrwyr ddangos gwir ddiddordeb mewn pobl, agwedd gadarnhaol, yr angen i lwyddo ac ymrwymiad a brwdfrydedd dros astudio. Rhaid i fyfyrwyr fod yn ddibynadwy, gonest, gweithgar a dangos unplygrwydd.

Dylai myfyrwyr fod yn ymgeiswyr hŷn a dangos tystiolaeth glir o brofiad bywyd.

Dilyniant
Bydd myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i raglen Lefel 3 yn y coleg, sef rhaglen Mynediad i AU fel arfer. Bydd y myfyrwyr hynny sydd ag angen rhagor o amser i ddatblygu yn cael cyfle i ddilyn y cwrs Dilyniant Oedolion naill ai ar Lefel 1 neu ar Lefel 2.

Os nad ydynt yn gweithio ym maes iechyd ar hyn o bryd, disgwylir i fyfyrwyr gael profiad gwaith sy’n addas i’r llwybr dilyniant a ddewiswyd ganddynt. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ymweld â sefydliadau AU i gwrdd â’r timau derbyn (codir ffi fach i dalu am deithio.)

Hyd
12 wythnos

Ffioedd [os yw’n berthnasol]
£90

Lleoliad
Tycoch

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Cyn-fynediad ffoniwch Suzanne Arnold ar 01792 284000 neu anfonwch e-bost

Diweddarwyd Mawrth 2012

Gower College Swansea
From September 2012, there will be several important changes to the provision of curriculum for new...
Gower College Swansea
A joint project from the National Theatre of Wales and Frantic Assembly, the college has supported this ...
Jobs Fair at Gower College Swansea
Jobs Fayre @ Tycoch campus (common room). Thursday 24th May, 10am to 3.30pm Representation from the...
Swans star Joe Allen has signed-up for a new scheme to inspire and reward young people. The Wales midfielder...
Level 2 Art and Design students at Llwyn y Bryn recently took part in a two day workshop with artist Mary...