
Sut i wneud cais
Os nad oes rhif cyfeirnod UCAS gan eich cwrs, cysylltwch â’r coleg.
Rhaid i geisiadau ar gyfer cyrsiau sydd â rhif cyfeirnod UCAS gael eu cyflwyno drwy UCAS.
Mae ffurflenni cais UCAS i’w cael yn eich ysgol neu’ch coleg. Os nad ydych chi’n dilyn addysg amser llawn, gallwch chi gael ffurflen gais drwy ffonio UCAS ar 01242 223707 neu ewch i’w gwefan.
Gofynion mynediad
Bydd gofynion mynediad yn wahanol yn dibynnu ar y lefel a’r math o gwrs. Os nad ydych chi’n siŵr, holwch gydlynydd y cwrs.
Arian
Mae hawl i fyfyrwyr AU gael grantiau a benthyciadau myfyrwyr – ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael rhagor o fanylion.
Diweddarwyd Tachwedd 2011











