
Gofynion Mynediad
Dim ond canllaw yw hwn. Fel rheol byddai disgwyl i fyfyrwyr ennill yr isafswm cymwysterau mynediad canlynol.
Lefel Mynediad ee cwrs Mynediad Galwedigaethol
Does dim unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
Lefel 1 ee Diploma mewn Diwydiannau Creadigol
Nifer o TGAU graddau D–G neu uwch.
Lefel 2 ee Diploma, Tystysgrif Estynedig, Tystysgrif
1 TGAU gradd C, wedi’i ategu gan nifer ar radd D neu uwch.
Lefel 3 ee cyrsiau UG
7 TGAU gradd C, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg os oes modd [os na chyflawnwyd hyn yn yr ysgol bydd rhaid ymrwymo i gofrestru ar gwrs TGAU Mathemateg a Saesneg yn y coleg os ydych chi’n bwriadu mynd ymlaen i addysg uwch.]
Neu ee Diploma Estynedig, Diploma, Diploma Cyfrannol, Tystysgrif
5 TGAU gradd C.
Lefel 3/4 ee Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio
5 TGAU gradd C neu uwch, neu 1 Safon Uwch wedi’i ategu gan 3 TGAU gradd C ac uwch neu Ddiploma Cenedlaethol BTEC. Dylai pob myfyriwr fod yn 18 oed neu’n hŷn a chyflwyno portffolio o waith celf yn y cyfweliad.
Llwybrau prentisiaeth
Os ydych chi’n gwneud cais am brentisiaeth dylech chi ddangos ymrwymiad at ddilyn gyrfa yn y maes.
Gall rhai pynciau/cyrsiau ei gwneud hi’n ofynnol i chi gael TGAU penodol gradd C neu uwch a nodir y rhain o fewn yr wybodaeth am bynciau/cyrsiau. Os nad yw unrhyw ofynion mynediad wedi’u bodloni, ond mae amgylchiadau arbennig, caiff pob cais ei ystyried yn unigol.
Asesiadau ychwanegol
Bydd rhai cyrsiau yn cael eu hasesu hefyd fel rhan o’r broses gyfweld [ee cyrsiau plymwaith Lefel 2.]
Dilyniant trwy’r lefelau
Yn y rhan fwyaf o achosion gall myfyrwyr sy’n cwblhau cwrs ar un lefel symud ymlaen i’r lefel nesaf yn y maes pwnc hwnnw.












