
Ariannu
Nid yw'r coleg yn codi ffioedd dysgu ar gyfer addysg bellach amser llawn dysgwyr Cymunedol y DU neu Ewropeaidd o unrhyw oedran. Fodd bynnag, codir ffioedd dysgu ar fyfyrwyr rhyngwladol.
Mae'n rhaid i bob myfyriwr amser llawn dalu ffi gofrestru na ellir ei had-dalu. Ar rai cyrsiau, ee Trin Gwallt, Arlwyo neu'r Celfyddydau, efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer offer neu ddillad arbenigol. Cewch fanylion yn ystod y broses gwneud cais a chofrestru.
Bydd rhaid i’r myfyrwyr sy’n gwneud profiad gwaith strwythuredig fel rhan o’u cwrs dalu am gostau gwiriad CRB (Swyddfa Cofnodion Troseddol), os yw gwiriad CRB yn ofynnol e.e. ar gyfer cyrsiau gofal plant.
Mae cymorth ariannol amrywiol ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio yn y coleg.
Lwfans Cynnal Addysg [LCA]
Gall grant LCA helpu gyda chostau cyrsiau gan gynnwys llyfrau, teithio neu offer. I gael rhagor o wybodaeth:
- cysylltwch â gwefan LCA
- cysylltwch â'r coleg yn Nhycoch ar 01792 284000
- neu cysylltwch â'r coleg yng Ngorseinon ar 01792 890700
Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn [CAWG]
Mae CAWG yn gronfa galedi sydd ar gael i fyfyrwyr amser llawn. Gall y cronfeydd helpu i dalu am gostau hanfodol sy'n gysylltiedig â'r cwrs megis offer cyrsiau, gofal plant, gwiriadau CRB a chostau cludiant. Mae CAWG yn dibynnu ar gael prawf modd ar incwm y cartref. I wneud cais mae'n rhaid i chi lenwi ffurflen gais. Mae'r cronfeydd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Bydd rhaid i chi ddangos prawf o incwm eich cartref ac os yw'n gymwys, prawf o'ch statws preswylio.
Grant Dysgu'r Cynulliad [GDC]
Mae GDC yn grant sy'n cael ei dalu bob tymor i fyfyrwyr 19 oed neu'n hŷn sy'n astudio cyrsiau amser llawn neu ran-amser. Gall GDC helpu i dalu am gostau cyrsiau myfyrwyr gan gynnwys llyfrau, teithio neu offer. Gwneud cais am GDC.
Rhaglen ysgoloriaeth
Gall myfyrwyr wneud cais i’r rhaglen ysgoloriaeth hefyd i gael arian ychwanegol ar gyfer eu hastudiaethau. Mae’r rhaglen ysgoloriaeth yn agored i bob myfyriwr sy’n gwneud cais am gyrsiau addysg bellach llawn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Byddai angen i chi ddangos lefel uchel o ymrwymiad a chyflawniad e.e. cynrychioli’r sir neu Gymru mewn amgylchedd creadigol neu chwaraeon.
Diweddarwyd Rhagfyr 2011












