
Sut i wneud cais
Gwybodaeth bwysig ynglŷn â newidiadau i’r cwricwlwm o fis Medi 2012
Mae’n bwysig iawn eich bod yn dewis y cwrs iawn i chi gael symud ymlaen i yrfa o’ch dewis. Gall ein cynghorwyr myfyrwyr eich helpu i ddewis yr opsiynau iawn. Efallai y byddwn yn ymweld â’ch ysgol hefyd i roi gwybodaeth a chanllawiau i chi, neu gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol.
Gobeithio y bydd y pwyntiau canlynol yn eich helpu wrth i chi ddechrau gwneud penderfyniadau ar gyfer y dyfodol:
Dewch i noson agored
Dewch i un o’n nosweithiau agored lle gallwch chi siarad â staff y coleg am y dewisiadau cwrs sydd ar gael a gweld y cyfleusterau.
Gwnewch gais i’r coleg.
Bydd pob disgybl a fydd mewn ysgol yn Ninas a Sir Abertawe yn gwneud cais ar-lein ar gyfer eu dewisiadau ôl-16 drwy’r cynllun ‘Gwarant Abertawe’ (bydd staff gyrfaoedd yn rhoi gwybodaeth lawn ar hyn ym mhob ysgol) - ni fydd y coleg yn gallu derbyn ceisiadau papur ar gyfer Medi 2012 oddi wrth y disgyblion hyn.
Mae ffurflen gais ar gael ar gyfer pob ymgeisydd arall (e.e. y rheiny sy’n dod o ysgolion y tu allan i Ddinas a Sir Abertawe). Rydym yn annog darpar fyfyrwyr i wneud cais cynnar - peidiwch â phoeni os nad ydych yn siŵr eto ynglŷn â pha gwrs i’w ddewis gan fod llawer o ddisgyblion yn ansicr ar yr adeg hon.
Dewch am gyfweliad
Cewch wahoddiad i ddod i gyfweliad - gallai hyn ddigwydd yn eich ysgol neu yn y coleg. Bydd hwn yn gyfle i ni gael dod i’ch adnabod ac i chi gael gofyn cwestiynau am y coleg. Yn ystod eich cyfweliad byddwn yn chwilio am ddiddordeb gwirioneddol yn y cwrs rydych yn gwneud cais am le arno a thystiolaeth o’ch ymrwymiad i’r cwrs, a allai gynnwys profiad gwaith, hobïau a diddordebau.
Cofrestru
Cewch y dyddiad a’r amser i ddod i’r coleg i gofrestru. Pan fydd eich cynnig yn gofyn bod rhaid i chi ennill y cymwysterau mynediad perthnasol, cewch eich gwahodd i ddod i’r coleg yn dilyn eich canlyniadau TGAU er mwyn i’ch cwrs gael ei gadarnhau. Cofiwch gadw eich apwyntiad, beth bynnag fydd eich graddau! Os na ddewch chi, gallech golli eich lle. Bydd staff y coleg yn barod iawn i fynd â chi drwy eich opsiynau os nad ydych yn hollol siŵr ynglŷn â’r cwrs rydych wedi’i ddewis.
Sesiwn Sefydlu
Byddwch yn dod i’r coleg ar gyfer sesiwn sefydlu cyn dechrau’r tymor. Y bwriad yw eich helpu i setlo yn y coleg, cwrdd â’r tiwtor ac â’r myfyrwyr eraill ar yr un cwrs. Cewch eich amserlen a gwybodaeth fydd yn sicrhau bod y newid o’r ysgol i’r coleg yn un didrafferth a hapus.
Diweddarwyd Chwefror 2012












