Gwybodaeth i Rieni

Cymorth yn y Coleg
Mae nifer o nosweithiau ymgynghori yn cael eu cynnal i roi cyfle i chi drafod cynnydd eich mab neu’ch merch. Rhaid i chi wneud apwyntiad i sicrhau eich bod chi’n siarad â’r aelod tîm perthnasol. Anfonir adroddiadau cynnydd myfyrwyr at rieni yn ystod y flwyddyn.

Os oes unrhyw bryderon gennych chi am eich mab neu’ch merch gallwch chi gysylltu â’r Tiwtor Personol, Tiwtor y Gyfadran neu Ddeon y Gyfadran. Yn ogystal â’r system Tiwtor Personol gall eich mab neu’ch merch droi at amryw o wasanaethau i’w helpu yn ystod eu cyfnod yn y coleg. Gall y Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr helpu gydag amrywiaeth o faterion cymorth gan gynnwys cyngor ar gyllid, cyfarwyddyd gyrfaoedd, cyngor ar gyrsiau a chynghori.
 
Newid/Gadael Cwrs
Os nad yw’ch mab neu’ch merch yn hapus gyda’r cwrs/pwnc y mae wedi’i ddewis rhaid trafod hyn â’r Tiwtor Personol. Bydd y tiwtor yn gallu dweud wrthych chi beth yw’r peth gorau i’w wneud. Os yw’ch mab neu’ch merch yn newid rhaglen heb ymgynghori â’r Tiwtor Personol, gallai olygu newid statws o fod yn fyfyriwr amser llawn i fyfyriwr rhan-amser a gallai hyn gael effaith ar y cyllid a gânt.

Arholiadau
Mae myfyrwyr yn gyfrifol am gofrestru ar gyfer arholiadau yn y coleg. Hysbysebir dyddiadau cofrestru drwy’r coleg ymhell cyn y dyddiadau cau. Codir ffi am gofrestru’n hwyr. Bydd ffurflenni cofrestru ar gael gan Diwtor Personol eich mab neu’ch merch.

Mae costau arholiadau a ffioedd cofrestru yn rhad ac am ddim pan fydd myfyrwyr yn sefyll yr arholiadau am y tro cyntaf. Fodd bynnag, os nad yw’ch mab neu’ch merch yn sefyll arholiad neu’n gadael y coleg ar ôl cofrestru ar gyfer arholiad, disgwylir i’ch mab neu’ch merch dalu’r costau hyn. Codir ffi hefyd am ailsefyll arholiadau.

Y Drefn Absenoldeb Myfyrwyr
Mae’r coleg yn cydnabod y bydd myfyrwyr yn absennol weithiau. Os yw’r myfyriwr yn absennol yn aml gallai fod ar ei hôl hi gyda’i astudiaethau. Yn achos salwch dilys bydd y coleg yn gwneud popeth a all i gefnogi’r myfyriwr.

Os nad yw’r absenoldeb yn ddilys gall y Drefn Ddisgyblu Myfyrwyr fod yn weithredol a gall unrhyw gyllid gael ei effeithio. Mae Trefn Absenoldeb Myfyrwyr gan y coleg i fyfyrwyr sy’n astudio ar gyrsiau amser llawn.

Adrodd Absenoldeb

Gower College Swansea
From September 2012, there will be several important changes to the provision of curriculum for new...
Gower College Swansea
A joint project from the National Theatre of Wales and Frantic Assembly, the college has supported this ...
Jobs Fair at Gower College Swansea
Jobs Fayre @ Tycoch campus (common room). Thursday 24th May, 10am to 3.30pm Representation from the...
Swans star Joe Allen has signed-up for a new scheme to inspire and reward young people. The Wales midfielder...
Level 2 Art and Design students at Llwyn y Bryn recently took part in a two day workshop with artist Mary...