Ysgoloriaethau a Chyfoethogi

Mae ein rhaglen ysgoloriaeth yn ceisio helpu myfyrwyr sydd â gallu eithriadol ym maes academaidd, creadigol neu chwaraeon i feithrin eu doniau i'r eithaf.

Gall y cynllun ddarparu cymorth ariannol tuag at y canlynol:

  • teithio
  • costau astudio a byw dramor
  • dosbarthiadau ychwanegol neu breifat
  • clyweliadau
  • dillad neu offer

Mae’r myfyrwyr hynny sydd â gallu eithriadol ym maes chwaraeon hefyd yn elwa ar y canlynol:

  • hyfforddiant o safon
  • cystadlu ar y lefel uchaf
  • trin a rheoli anafiadau chwaraeon
  • cymwysterau hyfforddi
  • profiad hyfforddi drwy gynlluniau cymunedol
  • cymorth i ennill contractau proffesiynol

Meini Prawf Ymgeisio
Rhaid i chi allu cael lle ar un o’n cyrsiau amser llawn. Does dim rhaid i chi wneud cais am gwrs yn yr un maes â'ch sgiliau arbennig [e.e. gallech chi ddilyn cwrs peirianneg a chael ysgoloriaeth am eich gallu eithriadol ym maes chwaraeon.] Fodd bynnag, er mwyn cadw eich cyllid ysgoloriaeth rhaid i chi lwyddo'n academaidd drwy gydol eich cyfnod yn y coleg. Bydd ffurflenni cais ar gael yn eich cyfweliad cychwynnol.

Eich Ffurflen Gais
Yn eich cais bydd rhaid i chi ddangos bod y gallu neu'r potensial gennych chi i lwyddo ar y lefel uchaf. Er enghraifft:

  • Ydych chi eisoes wedi profi eich gallu rhagorol yn academaidd, yn greadigol neu ar y maes chwaraeon yn eich ysgol?
  • Ydy'ch athro/athrawes wedi'ch adnabod fel rhywun â dawn arbennig - bydd angen geirda gan eich hyfforddwr neu’ch athro/athrawes sy'n nodi eich ymroddiad a'ch gallu
  • Allwch chi ddangos eich cymhelliant a'ch ymroddiad i’ch diddordeb?
  • Ydych chi wedi cynrychioli eich sir, eich rhanbarth neu’ch gwlad yn y maes o'ch dewis?

Yn eich cais bydd rhaid i chi ddangos sut y gall yr ysgoloriaeth eich helpu chi i gyflawni neu wella eich astudiaethau. Er enghraifft sut y gallai hyfforddiant ychwanegol eich helpu chi i ddatblygu eich sgiliau.

Amserlenni
Panel ysgoloriaethau tymor y gwanwyn
Bydd y mwyafrif o ysgoloriaethau ar gyfer 2012 yn cael eu dyrannu gan y panel hwn.
Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflenni cais yw 1 Mehefin 2012.
Bydd y panel ysgoloriaethau yn hysbysu ymgeiswyr o’i benderfyniadau ar 1 Gorffennaf 2012.

Panel ysgoloriaethau tymor yr hydref
Bydd y panel yn dyrannu’r ysgoloriaethau sy’n weddill ar gyfer 2012.
Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflenni cais yw 5 Medi 2012.
Bydd y panel ysgoloriaethau yn hysbysu ymgeiswyr o’i benderfyniadau ar 30 Medi 2012.

Ysgoloriaethau Chwaraeon
Gall myfyrwyr ar draws y coleg wneud cais am Ysgoloriaethau Chwaraeon. Ar hyn o bryd mae’r rhaglen ysgoloriaeth yn cynnig £500 y flwyddyn o gymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n rhagori yn y gamp o’u dewis. Rhaid i’r myfyrwyr hyn fod ar lefel elit er mwyn gwneud cais, yn ddelfrydol ar lefel ryngwladol neu lefel ryngwladol bosibl. Dylid cyfeirio pob cais i Rob Baynham.

Diweddarwyd Ionawr 2012

The South West Wales Lion’s Lair final took place recently at the Dylan Thomas Centre, Swansea. A...
GCS
Gower College Swansea has two upcoming open evenings for those looking to start a part time course this...
ColegauCymru - the national organisation representing all 17 further education (FE) colleges and two FE...
These exhibitions are the culmination of this year's work from the Visual Arts students at Llwyn Y Bryn....
GCS
Welsh Bacc students have taken part in a fundraising project to raise money for SOS AFRICA with the key goal...