Cymorth myfyrwyr

Gall myfyrwyr siarad â’u tiwtor am unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw am eu cwrs.  Mae tiwtoriaid yn gyfrifol am les cyffredinol a chynnydd grŵp o fyfyrwyr, ac maen nhw’n cwrdd â’r rhain bob wythnos.  Eich tiwtor yw’ch man cyswllt cyntaf a gall gynnig help, ac os bydd angen, gall geisio cymorth pellach ar eich rhan.

Mae rhaglen diwtorial y coleg yn rhaglen gynhwysfawr sy'n astudio  amrywiaeth o bynciau megis Cyfarwyddyd Gyrfaoedd, Materion Amgylcheddol a gwneud cais i’r Brifysgol neu am swydd.  Mae'r rhaglen yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau hefyd.

Mae cymorth tiwtorial wythnosol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae Sesiynau Tiwtorial Rhydgrawnt/Arbenigol ar gael hefyd.










Gwasanaethau Myfyrwyr

Mae’r Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yma i’ch helpu chi i fwynhau bywyd coleg i’r eithaf. Gall y tîm Gwasanaethau Myfyrwyr helpu gydag amrywiaeth o faterion cymorth gan gynnwys cyngor ar gyllid, cyfarwyddyd gyrfaoedd, cyngor ar gyrsiau, iechyd a lles.  Mae staff cymorth myfyrwyr arbenigol y coleg ar gael yng Ngorseinon, Llwyn y Bryn a Thycoch.

Cyfleoedd i Ailsefyll Arholiadau TGAU
Caiff myfyrwyr eu hannog i ailsefyll arholiadau TGAU Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth a Chymraeg (Iaith Gyntaf), os bydd angen, ac mae myfyrwyr yn cael cyfle i astudio’r pynciau hyn yn ystod blwyddyn gyntaf eu cwrs. Fel arfer caiff arholiadau eu sefyll ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf .

Cymorth Dysgu Ychwanegol
Mae hwn ar gael i fyfyrwyr ag anghenion ychwanegol gan gynnwys dyslecsia.  Mae offer arbenigol ar gael yn ogystal â chymorth un i un.

Dylech chi roi gwybod i ni adeg ymgeisio i sicrhau y gallwn ni wneud cais am y cymorth iawn. Gall ein tîm drafod unrhyw ddatgeliadau yn gyfrinachol, nodi anghenion penodol cyn ymuno â’r coleg, gwneud addasiadau rhesymol i’ch helpu chi i gyflawni a darparu cymhorthion atodol. Caiff pob datgeliad ei drin yn sensitif a’i ddefnyddio dim ond er budd posibl y dysgwr.

Sgiliau Astudio
Gallwn ni eich helpu chi i wella eich sgiliau llythrennedd a rhifedd gyda gwersi arbenigol. Yng Nghanolfan Sgiliau Myfyrwyr Gorseinon byddwn ni’n eich helpu chi gyda sgiliau adolygu a gwaith cwrs a byddwn ni’n prawf-ddarllen eich gwaith. Mae adnoddau ychwanegol ar gael hefyd, fel cyfrifiaduron, gliniaduron a meddalwedd addysgol i gynorthwyo llythrennedd. 

Sesiynau Tiwtorial Rhydgrawnt/Arbenigol
Mae nifer y myfyrwyr sy’n symud ymlaen i addysg uwch o’r coleg ymysg yr uchaf yng Nghymru. Roedd carfan 2010 wedi cael ei derbyn i astudio mewn prifysgolion a cholegau arbenigol ledled y DU ac roedd y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr wedi ennill ysgoloriaethau prifysgol.

Mae nifer sylweddol wedi mynd i Rydychen neu Gaergrawnt bob blwyddyn dros y degawd diwethaf - cafodd 34 o fyfyrwyr eu derbyn yn ystod y tair blynedd diwethaf.  Mae tiwtoriaid y Rhaglen Paratoi at Rydgrawnt yn cynnig cymorth unigol i’r rhai a hoffai wneud cais i Brifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt.  Yn nhymor y gwanwyn yn y flwyddyn gyntaf rydym yn trafod y gwahanol gyrsiau a gynigir gan brifysgolion ac mae’r myfyrwyr yn cael gwybodaeth a fydd yn eu helpu i wneud penderfyniadau cytbwys. Ymhlith elfennau hanfodol y rhaglen mae ymweliadau â Rhydychen a Chaergrawnt ac mae israddedigion a staff cyswllt Rhydgrawnt yn ymweld â ni hefyd.

Yn ystod tymor yr haf bydd y pwyslais ar arwain unigolion drwy gamau cyntaf y broses ymgeisio; bydd grwpiau trafod pwnc-penodol yn cael eu trefnu ar gyfer ymgeiswyr sydd o ddifrif am ymgeisio. Yn yr ail flwyddyn, mae’r myfyrwyr yn ymuno â grŵp Tiwtor Personol Rhydgrawnt tan y cyfweliadau. Bydd technegau cyfweld a chyfweliadau ffug yn elfennau allweddol yma. Caiff myfyrwyr gymorth llawn yn ystod y cyfnod cyfweld hefyd.

Roedd pymtheg o fyfyrwyr wedi symud ymlaen i ysgolion meddygol yn ystod 2010, gan gynnwys pedwar a aeth ymlaen i Golegau Rhydgrawnt. Mae pedwar arall yn astudio i fod yn ddeintyddion ac mae un arall yn dilyn cwrs milfeddygaeth yn Rhydychen. Bydd myfyrwyr sydd wedi mynegi diddordeb mewn gyrfa ym myd meddygaeth yn cael sesiynau tiwtorial bob wythnos yn ystod yr ail flwyddyn. Mae’r rhain yn rhoi cyfle iddyn nhw drafod materion moesegol cyfredol a’r darganfyddiadau meddygol diweddaraf a chael cyngor ar dechnegau cyfweld.

Caiff myfyrwyr y Celfyddydau Perfformio eu tywys drwy weithdrefnau ymgeisio’r colegau arbenigol a’u paratoi ar gyfer clyweliadau.

Mae paratoi myfyrwyr ar gyfer y cam nesaf yn eu haddysg a rhoi cymorth iddyn nhw drwy’r broses ymgeisio a’r broses gyfweld yn arfer dda a welir ar draws y coleg. Mae’r myfyrwyr yn manteisio ar raglen diwtorial strwythuredig, siaradwyr gwadd, ymweliadau, gweithgareddau menter a’r cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol perthnasol, lle y buon nhw’n llwyddiannus droeon.

Gower College Swansea
From September 2012, there will be several important changes to the provision of curriculum for new...
Gower College Swansea
A joint project from the National Theatre of Wales and Frantic Assembly, the college has supported this ...
Jobs Fair at Gower College Swansea
Jobs Fayre @ Tycoch campus (common room). Thursday 24th May, 10am to 3.30pm Representation from the...
Swans star Joe Allen has signed-up for a new scheme to inspire and reward young people. The Wales midfielder...
Level 2 Art and Design students at Llwyn y Bryn recently took part in a two day workshop with artist Mary...