
Mynediad
Rydym ni'n cynnig y cyrsiau [cynllun carlam] rhan-amser hyn ar hyn o bryd. Nod y rhaglenni yw:
- Denu myfyrwyr hŷn sydd wedi penderfynu newid gyrfa neu sy’n dychwelyd i astudio ar ôl cael seibiant
- Ategu cymwysterau Safon Uwch neu gyrsiau BTEC a enillwyd eisoes er mwyn cael lle ar gwrs addysg uwch
- Darparu llwybr carlam i fyfyrwyr sy’n awyddus i symud ymlaen i gwrs addysg uwch
Rhaglenni modiwlar yw'r rhain sy'n golygu y gall myfyrwyr ddilyn llwybrau astudio unigol. Gall ein staff roi cyngor i chi ar y llwybr gorau i’w ddilyn.
Gofynion mynediad
Rydym ni’n pwyso a mesur pob cais. Does dim angen cymwysterau ffurfiol arnoch chi i gofrestru ar gwrs Mynediad i Addysg Uwch ond rydym ni’n disgwyl i chi ddangos ymrwymiad i’ch maes astudio a brwdfrydedd dros y llwybr o’ch dewis.
Ariannu
Mae cyllid Grant Dysgu'r Cynulliad (GDC) ar gael i'r myfyrwyr sy'n dilyn cwrs Mynediad amser llawn neu ran-amser. Mae consesiynau ar gael hefyd ar gyfer cyrsiau Cyn-fynediad i'r rhai sy'n derbyn budd-daliadau.
Ceisiadau
Cysylltwch â Suzanne Arnold drwy'r e-bost i wneud cais am ein cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch.












