Gofynion mynediad

Dewis y cwrs iawn
Gall y canllaw hwn i lefelau cyrsiau eich helpu chi i ddewis y cwrs iawn.

Mynediad: Mae dysgu ar y lefel hon yn cynnwys meithrin gwybodaeth a sgiliau sylfaenol o dan gyfarwyddyd neu oruchwyliaeth uniongyrchol.

Lefel 1: (Dim gwybodaeth flaenorol) Rydych chi’n ddechreuwr neu dydych chi ddim yn gyfarwydd â’r pwnc neu'n gyfarwydd ychydig yn unig â'r pwnc.  Gall y cwrs gael ei gysylltu â swydd arbennig.

Lefel 2: (Canolradd) Efallai eich bod chi wedi cwblhau cwrs Lefel 1 neu'n meddu ar TGAU neu wybodaeth gyfatebol.  Bydd cymwysterau ar lefel 2 yn cydnabod y gallu i wneud tasgau gyda rhywfaint o gyfarwyddyd neu oruchwyliaeth.

Lefel 3: (Uwch) Efallai eich bod chi wedi cwblhau cwrs Lefel 2 yn y pwnc.  Mae cymwysterau Lefel 3 (e.e. Safonau Uwch) yn meithrin gwybodaeth a sgiliau manwl.  Maen nhw'n briodol i bobl sy'n dymuno mynd i'r brifysgol, pobl sy'n gweithio'n annibynnol, neu bobl mewn rhai meysydd sy'n goruchwylio ac yn hyfforddi eraill yn eu maes gwaith.

Lefel 4: Mae cymwysterau ar lefel 4 (e.e. NVQ 4) yn cynnwys dysgu arbenigol ac maen nhw'n briodol i bobl sy'n gweithio neu sy'n dymuno gweithio mewn swyddi technegol neu broffesiynol, a/neu sy'n rheoli ac yn datblygu eraill.

Lefel 5: Ar y lefel hon, mae cymwysterau (e.e. BTEC HNC/HND) yn cynnwys lefelau uchel o wybodaeth a sgiliau ac yn briodol i bobl sy'n gweithio neu sy'n dymuno gweithio fel technegwyr gradd uwch, gweithwyr proffesiynol neu reolwyr.

Lefel 6: Mae cymwysterau Lefel 6 (e.e. Gradd) yn cynnwys lefel uchel o wybodaeth broffesiynol arbenigol mewn maes gwaith neu astudio.  Maen nhw'n briodol i bobl sy'n gweithio fel gweithwyr proffesiynol seiliedig ar wybodaeth neu mewn swyddi rheoli proffesiynol.

Gower College Swansea
From September 2012, there will be several important changes to the provision of curriculum for new...
Gower College Swansea
A joint project from the National Theatre of Wales and Frantic Assembly, the college has supported this ...
Jobs Fair at Gower College Swansea
Jobs Fayre @ Tycoch campus (common room). Thursday 24th May, 10am to 3.30pm Representation from the...
Swans star Joe Allen has signed-up for a new scheme to inspire and reward young people. The Wales midfielder...
Level 2 Art and Design students at Llwyn y Bryn recently took part in a two day workshop with artist Mary...