Sut i Gofrestru

Cofrestrwch yn gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.

Mae'r symbol www. yn y rhestrau cyrsiau yn golygu bod modd cofrestru ar y cwrs ar-lein. Gallwch gofrestru ar-lein os nad oes angen cyfwedliad arnoch ac nid ydych yn gymwys i gael gostyngiad.

Sylwch, ar gyfer y cyrsiau sydd ag angen cyfweliad, rhaid i chi gael cadarnhad ysgrifenedig o'ch cyfweliad cyn cofrestru.

Rhaid i chi ddod a phrawf adnabod megis:

  • Pasbort
  • Cerdyn Validate
  • Cerdyn Adnabod Gweithiwr
  • Trwydded Yrru
  • Cerdyn Yswiriant Gwladol
  • Cerdyn Credyd/Debyd Banc
  • Prawf o Fudd-daliadau
  • Slip Canlyniadau Arholiadau
     

Talu a gostyngiadau
Rhaid talu ffioedd cwrs adeg cofrestru. Mae gostyngiadau ar gael ar gyfer rhai cyrsiau i ddysgwyr sy'n derbyn y budd-daliadau canlynol: Cymhorthdal Incwm; Credyd Treth Gwaith; Lwfans Ceisio Gwaith; Budd-dal Analluogrwydd; Budd-dal Anabledd Difrifol; Credydau Pensiwn; Budd-dal y Dreth Gyngor; Budd-dal Tai.

Bydd rhaid i chi ddangos prawf o'r budd-daliadau wrth gofrestru. Mae consesiynau ar gael hefyd i ddysgwyr o'r DU neu'r Gymuned Ewropeaidd sydd o dan 19 oed neu fyfyrwyr sy'n parhau i fod mewn addysg amser llawn.

Gallwch chi dalu ag arian parod, siec [gyda cherdyn gwarantu siec ddilys], cerdyn switch, debyd neu gredyd.

Nid ydym ni’n cofrestru myfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth. Os nad ydych wedi cofrestru cyn dyddiad dechrau'r cwrs, ac rydych chi am ddilyn y cwrs, cysylltwch â'r coleg i gadarnhau bod lle ar gael i chi.

Diweddarwyd Tachwedd 2011

Gower College Swansea
From September 2012, there will be several important changes to the provision of curriculum for new...
Gower College Swansea
A joint project from the National Theatre of Wales and Frantic Assembly, the college has supported this ...
Jobs Fair at Gower College Swansea
Jobs Fayre @ Tycoch campus (common room). Thursday 24th May, 10am to 3.30pm Representation from the...
Swans star Joe Allen has signed-up for a new scheme to inspire and reward young people. The Wales midfielder...
Level 2 Art and Design students at Llwyn y Bryn recently took part in a two day workshop with artist Mary...