Sut i Gofrestru

Cofrestrwch yn gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.

Mae'r symbol www. yn y rhestrau cyrsiau yn golygu bod modd cofrestru ar y cwrs ar-lein. Gallwch gofrestru ar-lein os nad oes angen cyfwedliad arnoch ac nid ydych yn gymwys i gael gostyngiad.

Sylwch, ar gyfer y cyrsiau sydd ag angen cyfweliad, rhaid i chi gael cadarnhad ysgrifenedig o'ch cyfweliad cyn cofrestru.

Rhaid i chi ddod a phrawf adnabod megis:

  • Pasbort
  • Cerdyn Validate
  • Cerdyn Adnabod Gweithiwr
  • Trwydded Yrru
  • Cerdyn Yswiriant Gwladol
  • Cerdyn Credyd/Debyd Banc
  • Prawf o Fudd-daliadau
  • Slip Canlyniadau Arholiadau
     

Arian

ReAct II

Rhaglen ariannu yw Cynllun Gweithredu Diswyddiadau II (ReAct II) ar gyfer hyfforddiant a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i bobl sy'n byw yng Nghymru ac sy'n wynebu colli eu swyddi.

Grant Dysu'r Cynulliad
Mae'r grant hwn yn helpu pobl o deuluoedd incwm isel i gael mynediad i addysg bellach. Mae'n cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru a'i dalu drwy'r Awdurdod Addysg Lleol. 

ELCAS - Credydau Dysgu Estynedig
Mae'r Cynllun Credydau Dysgu Estynedig (ELC) yn un o fentrau'r Weinyddiaeth Amddiffyn i hyrwyddo dysgu gydol oes ymhlith aelodau o'r Lluoedd Arfog.

Sgiliau ar Gyfer Diwydiant
Mae'r prosiect Sgiliau ar gyfer Diwydiant yn helpu cyflogwyr a mentrau i ymgyfarwyddo a newid economaidd drwy godi lefelau sgiliau a chymwysterau eu gweithwyr.

Sgiliau Twf Cymru
Mae cynllun Sgiliau Twf Cymru (SGW) yn helpu cwmniau sy'n bwriadu ehangu eu gweithlu ac sydd angen cyllid ar gyferhyffordiant i wneud hynny.

Talu a gostyngiadau
Rhaid talu ffioedd cwrs adeg cofrestru. Mae gostyngiadau ar gael ar gyfer rhai cyrsiau i ddysgwyr sy'n derbyn y budd-daliadau canlynol: Cymhorthdal Incwm; Credyd Treth Gwaith; Lwfans Ceisio Gwaith; Budd-dal Analluogrwydd; Budd-dal Anabledd Difrifol; Credydau Pensiwn; Budd-dal y Dreth Gyngor; Budd-dal Tai.

Bydd rhaid i chi ddangos prawf o'r budd-daliadau wrth gofrestru. Mae consesiynau ar gael hefyd i ddysgwyr o'r DU neu'r Gymuned Ewropeaidd sydd o dan 19 oed neu fyfyrwyr sy'n parhau i fod mewn addysg amser llawn. Fodd bynnag, ni fydd y myfyrwyr a'r hawl i gael y disgownt hwn os ydynt eisoes yn astudio'r un cwrs mewn sefydliad addysg arall.

Gallwch chi dalu ag arian parod, siec [gyda cherdyn gwarantu siec ddilys], cerdyn switch, debyd neu gredyd.

Nid ydym ni’n cofrestru myfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth. Os nad ydych wedi cofrestru cyn dyddiad dechrau'r cwrs, ac rydych chi am ddilyn y cwrs, cysylltwch â'r coleg i gadarnhau bod lle ar gael i chi.

Diweddarwyd Mehefin 2012

Join us at Llwyn y Bryn at 7pm on Thursday 23rd May for our annual Film Festival - just £2.50 per ticket Our...
A Level students from Gower College Swansea have successfully competed in an annual ‘Chemistry Olympiad...
A ‘potted’ version of the Shakespearian classic performed by our One Year Acting course students...
A musical based upon the songs of Madness featuring all our Year 2 BTEC Performing Arts students....
Steve Williams, Curriculum Leader for Digital Technology at Gower College Swansea, has won a prestigious...