Cymorth i fyfyrwyr

Gwasanaethau Myfyrwyr yw’r man cyswllt cyntaf am wybodaeth, cymorth a chyngor ar unrhyw beth o gyngor ar yrfaoedd i gymorth ariannol. Mae staff arbenigol cymorth myfyrwyr y coleg ar gael ar gampws Llwyn y Bryn, Tycoch a Gorseinon.

Gwasanaeth lles
Oes problem gennych? Gallwn ni eich helpu. Gall myfyrwyr drafod, mewn lleoliad cyfrinachol, unrhyw beth gan gynnwys problemau academaidd, iselder, pryder, cymorth i reoli dicter, straen neu fwlio.

Cyngor ac arweiniad ar gyrsiau
Mae’r Cynghorydd Myfyrwyr a’r Tîm Derbyn yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr gan gynnwys cymorth ac arweiniad amhleidiol, proffesiynol a chyfrinachol i fyfyrwyr trwy’r broses ymgeisio ac yn ystod eu cyfnod yn y coleg. Hefyd mae cynghorwyr myfyrwyr wrth law i roi cyngor ar les, arweiniad ar gyrsiau a materion ariannol a phersonol.

Cymorth dysgu arbenigol
Gallwn ni roi cymorth arbenigol hefyd i fyfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Os bydd angen offer neu gymorth arbenigol arnoch, byddwn yn gwneud cais am arian ar gyfer hyn. Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn gwneud cais i sicrhau ein bod yn cynnig y cymorth iawn i chi.

Mae ardal technoleg gynorthwyedig yn ein canolfan adnoddau dysgu gydag offer i ddysgwyr sydd ag anghenion cymorth dysgu arbennig.

Parthau Dysgu
Cewch bopeth sydd ei angen arnoch i lwyddo yn eich addysg ym Mharthau Dysgu amlgyfrwng modern y coleg. Mae’r
adnoddau’n cynnwys:

  • cyfleusterau galw heibio TG ac adnoddau gwybodaeth
  • mynediad i amgylchedd dysgu rhithwir y coleg (VLE) a’r rhyngrwyd
  • fideos, DVDs, cryno-ddisgiau a thapiau sain
  • llyfrau i gyfeirio atynt a’u benthyca ar bob math o bynciau
  • hen bapurau arholiad a meysydd llafur cyfredol

Gall staff y Parth Dysgu weithio gyda chi a’ch darlithwyr i’ch helpu i gael hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf. Byddan nhw hefyd yn eich helpu i ddatblygu’ch sgiliau ymchwil.

Cyfarwyddyd Gyrfaoedd
Wedi’i leoli yn Nhycoch a Gorseinon, mae Gyrfa Cymru ar gael i’ch helpu gyda’ch dewisiadau gyrfa, ffug gyfweliadau, datblygu sgiliau gwaith ac ystyried cyflogaeth neu brifysgol.

Join us at Llwyn y Bryn at 7pm on Thursday 23rd May for our annual Film Festival - just £2.50 per ticket Our...
A Level students from Gower College Swansea have successfully competed in an annual ‘Chemistry Olympiad...
A ‘potted’ version of the Shakespearian classic performed by our One Year Acting course students...
A musical based upon the songs of Madness featuring all our Year 2 BTEC Performing Arts students....
Steve Williams, Curriculum Leader for Digital Technology at Gower College Swansea, has won a prestigious...