Skip to main content

Prentisiaethau

Coleg Gŵyr Abertawe yw un o’r prif ddarparwyr Prentisiaethau yng Nghymru, ac rydym yn cynnig ystod eang o raglenni prentisiaethau arobryn yng Nghymru a Lloegr.  

Mae prentisiaethau yn gyfle i chi ennill profiad ymarferol yn y byd go iawn wrth ddatblygu sgiliau sy’n benodol i’ch proffesiwn dewisol. Fel prentis, byddwch yn ennill cyflog wrth ddysgu, gan feithrin y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.  

Gall pobl o bob oedran ymgymryd â phrentisiaethau, cyn belled â’u bod mewn cyflogaeth am o leiaf 16 awr yr wythnos. Gallwch ddewis lefel prentisiaeth sy’n addas i chi trwy ddechrau ar lefel sylfaen, cyn cael cyfle i symud ymlaen i lefel uwch rheoli.  

Llwybrau prentisiaethau 

Rydym yn cynnig mwy nag 82 o lwybrau prentisiaeth, yn amrywio o brentisiaethau Lefel 2 i brentisiaethau lefel gradd. Mae gennym lwybrau ar gael ym meysydd Arwain a Rheoli, Digidol, Gwaith Coed, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a llawer mwy! 

Pori trwy ein llwybrau prentisiaeth

Straeon Llwyddiant 

Yn ystod y saith mlynedd diwethaf, mae 2,996 o ddysgwyr wedi cwblhau prentisiaethau yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Clywch beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud!

Cliciwch y botwm ar ochr dde uchaf y fideo i weld mwy. 

Gwobrau Prentisiaethau

Cynhaliwyd Gwobrau Prentisiaethau eleni ar ddydd Llun 5 Chwefror 2024.

Rhagor o wybodaeth

Manteision prentisiaethau

Bydd darpar brentisiaid yn elwa mewn nifer o ffyrdd gwahanol drwy astudio prentisiaeth gyda’r Coleg, gan gynnwys:

  • Ennill profiad ymarferol yn y byd go iawn  
  • Ennill cyflog wrth ymgymryd ag astudiaethau a hyfforddiant
  • Cymorth gan diwtoriaid/aseswyr sydd â phrofiad helaeth o fewn y diwydiant
  • Ennill cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant
  • Mynediad i'n gwasanaethau llyfrgell, yn ogystal â Smart Assessor
  • Mynediad i Ganolfan Chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe, yn ogystal ag aelodaeth am bris gostyngol
  • Prisiau gostyngol ar gyfer gwasanaethau a gynigir gan ein Canolfan Gwallt, Harddwch a Holistig (Broadway)
  • Cymhwysedd i wneud cais am gerdyn myfyriwr prentisiaid NUS  
  • Mynediad at adnoddau dysgu Moodle a Canvas  

Buddion i gyflogwyr

Trwy weithio gyda Choleg Gŵyr Abertawe, bydd cyflogwyr yn elwa o:

  • Well gynhyrchiant gweithwyr
  • Gwell perfformiad ac ysbryd tîm
  • Gwell sgiliau mewnol o fewn y cwmni
  • Mynediad at lwybrau cyllid a grantiau
  • Costau hyfforddi a recriwtio is
  • Y gallu i lenwi bylchau mewn sgiliau trwy recriwtio staff newydd neu uwchsgilio staff presennol

Is-gontractwyr 

Rydym yn ymgysylltu ag is-gontractwyr i ateb anghenion cwsmeriaid yn well ac i wneud y canlynol:

  • Gweithio gyda darparwyr sy’n cyrraedd dysgwyr â blaenoriaeth yn effeithiol yn y gymuned ac sy’n gallu dangos canlyniadau cadarnhaol
  • Darparu mynediad i/ymgysylltiad ag ystod newydd o gwsmeriaid 
  • Cynorthwyo darparwr arall i ddatblygu gallu/ansawdd
  • Rhoi darpariaeth ychwanegol
  • Gweithio gyda darparwyr sy’n cynnig blaenoriaethau sy’n benodol i’r sector gan gefnogi agendâu sgiliau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
  • Bydd yr holl is-gontractwyr yn destun diwydrwydd dyladwy y Coleg.

Mae’r Coleg yn cadw ffi reoli sy’n talu cyfran o’r costau uniongyrchol sy’n gysylltiedig â gweithredu a sicrhau ansawdd darpariaeth is-gontractwyr.

Os yw’r is-gontractwr yn is-gwmni i Goleg Gŵyr Abertawe, bydd taliadau gwasanaeth yn cael eu cymhwyso drwy broses gyllidebu flynyddol safonol y Coleg. Mae hyn yn adlewyrchu’r is-gwmni fel un o unedau busnes mewnol y Coleg ac felly, codir tâl canolog am wasanaethau megis llywodraethu, ansawdd a chydymffurfio.

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24, ni fydd Coleg Gŵyr Abertawe yn is-gontractio i unrhyw ddarparwyr eraill (Lloegr yn unig).

Cymeradwywyd Polisi Ffioedd a Thaliadau Is-gontractio DSW 2023/24 gan y Pwyllgor Cyllid ar 12 Hydref 2023 a’i gadarnhau yng nghyfarfod Bwrdd Corfforaeth y Corff Llywodraethol ar 16 Tachwedd 2023. 

Logo

Becon awards finalist logo

Cwestiynau Cyffredin

Cyfle i ddysgwyr ennill hyfforddiant ymarferol yn y byd go iawn wrth sicrhau cymhwyster cydnabyddedig.  

Fel prentis, byddwch yn ennill cyflog wrth ddysgu, gan feithrin y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. 

Dim o gwbl. Gall weithwyr proffesiynol profiadol ddefnyddio prentisiaethau i uwchsgilio a datblygu eu gyrfa. Rhaid i chi fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr yr wythnos yng Nghrymu. 

Bydd hyd pob prentisiaeth yn amrywio yn dibynnu ar lefel y cymhwyster. Ond fel arfer, bydd prentisiaeth yn cymryd 12-24 mis i’w gwblhau.

Byddant yn dechrau unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn, ond, efallai bydd rhai cyrsiau yn dechrau ym mis Medi, yn unol â’r flwyddyn academaidd.

 

Ymgeisio am Brentisiaeth