Cwrs Paratoi ar gyfer y Lluoedd Arfog

Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau a fydd yn rhoi dealltwriaeth glir iddynt o yrfa yn y Lluoedd Arfog. Cynhelir y cyrsiau ym mis Medi a mis Chwefror. Bydd lwfans hyfforddi wythnosol ar gael (bydd rhaid cyfrannu tuag at gostau teithio).

Nod y cwrs yw:

• paratoi pobl ifanc sy’n ystyried ymuno â’r Lluoedd Arfog drwy ddarparu cyflwyniad trylwyr i’r gofynion mynediad a’r broses sefydlu;

• goresgyn y rhwystrau mynediad y mae rhai darpar recriwtiaid wedi eu hwynebu oherwydd diffyg sgiliau sylfaenol a ffitrwydd corfforol; a

• rhoi cyfle i bobl ifanc gydnabod a gweithio tuag at y sgiliau a’r gallu fydd yn eu cynorthwyo i gael mynediad a gwella rhagolygon dyrchafiad a gyrfa yn y Lluoedd.

Cynnwys y cwrs:

  • NOCN Tystysgrif mewn Sgiliau Tuag at Ddilyniant Galluogi
  • Tystysgrif mewn Sgiliau Gwaith
  • Tystysgrif mewn Byw'n Iach a Ffitrwydd Mynediad 3
  • Sgiliau hanfodol
  • Sgiliau llythrennedd a rhifedd
  • NARS Gwobrau Croes Efydd/Arian/Cymhwyster achub bywyd mewn pwll
  • Ffitrwydd corfforol/ffitrwydd nofio
  • Ffitrwydd amlgampfa
  • Gwaith menter/elusennol
  • Darlithoedd gwadd gan weithwyr y Lluoedd Arfog
  • Ffug gyfweliadau
  • Cyflwyniadau ar yrfaoedd
  • Tasgau gorchymyn
  • Cyfeiriannu a gwaith mapio

Rhaid i oedolion gael eu cyfeirio gan y Ganolfan Waith (cysylltwch â’ch cynghorydd yn y Ganolfan Waith).

Rhaid i bobl 16-18 oed gael eu cyfeirio gan Gyrfa Cymru 01792 644444.

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01792 890729.

Diweddarwyd Gorffennaf 2012

The South West Wales Lion’s Lair final took place recently at the Dylan Thomas Centre, Swansea. A...
GCS
Gower College Swansea has two upcoming open evenings for those looking to start a part time course this...
ColegauCymru - the national organisation representing all 17 further education (FE) colleges and two FE...
These exhibitions are the culmination of this year's work from the Visual Arts students at Llwyn Y Bryn....
GCS
Welsh Bacc students have taken part in a fundraising project to raise money for SOS AFRICA with the key goal...