Camau i Gyflogaeth

Mae’r rhaglenni Camau i Gyflogaeth ar gyfer oedolion sy’n dysgu, sy’n 18 oed neu’n hŷn ac yn ystyried dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod o ddiweithdra ac yn derbyn lwfansau’r Adran Gwaith a Phensiynau. Rhaid i’r oedolion sy’n bwriadu ymuno â’r rhaglen gael gwiriad cymhwysedd cyn-fynediad gyda’r Ganolfan Byd Gwaith. 

  • Dysgu sy’n Canolbwyntio ar Waith - nod y rhaglen hon yw mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau dysgu sydd efallai yn eich atal rhag ymrwymo i waith, hyfforddiant neu addysg amser llawn.
     
  • Llwybrau i Waith - mae hon yn rhaglen hyfforddi bwrpasol alwedigaethol fer o dan arweiniad cyflogwr wedi’i theilwra ar gyfer cyflogwyr unigol/grwpiau o gyflogwyr sy’n ystyried recriwtio unigolion. Byddwch yn siŵr o gael cyfweliad am swydd ar ôl cwblhau’r rhaglenni hyn yn llwyddiannus.

Beth yw’r manteision?

  • cynyddu cymhelliad a magu hyder;
  • cael profiad yn yr alwedigaeth o’ch dewis;
  • ennill cymwysterau ar Lefel 1 neu 2;
  • datblygu’ch sgiliau hanfodol (cyfathrebu, cymhwyso rhif, TGCh, gweithio gydag eraill, gwella’ch dysgu eich hun a datrys problemau);
  • premiwm hyfforddi;
  • cymorth gofal plant ar gyfer rhieni unigol;
  • gwella’ch cyfle o gael eich cyflogi; a
  • chymhorthdal teithio.

Cynigiwn y cyrsiau canlynol ar hyn o bryd (gall fod newidiadau):

  • Tystysgrif mewn Trin Gwallt a Gwaith Barbwr
  • NVQ Tystysgrif mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid
  • NVQ Tystysgrif mewn Gweinyddu Busnes
  • Dyfarniad Mewn Gwaith Warws a Storio
  • NVQ Tystysgrif a Diploma mewn Gwasanaethau Lletygarwch
  • NVQ Diploma mewn Coginio Proffesiynol
  • NVQ Perfformio Gweithrediadau Peirianneg
  • NVQ Plymwaith
  • Diploma mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
  • Dyfarniad mewn Systemau TGCh ac Egwyddorion i Brentisiaid
  • Tystysgrif i Ddefnyddwyr TG

Sylwch fod angen i bob dysgwr gael ei gyfeirio gan y Ganolfan Byd Gwaith (cysylltwch â’ch cynghorydd). I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01792 284477.

The South West Wales Lion’s Lair final took place recently at the Dylan Thomas Centre, Swansea. A...
GCS
Gower College Swansea has two upcoming open evenings for those looking to start a part time course this...
ColegauCymru - the national organisation representing all 17 further education (FE) colleges and two FE...
These exhibitions are the culmination of this year's work from the Visual Arts students at Llwyn Y Bryn....
GCS
Welsh Bacc students have taken part in a fundraising project to raise money for SOS AFRICA with the key goal...