
Camau i Gyflogaeth
Mae’r rhaglenni Camau i Gyflogaeth ar gyfer oedolion sy’n dysgu, sy’n 18 oed neu’n hŷn ac yn ystyried dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod o ddiweithdra ac yn derbyn lwfansau’r Adran Gwaith a Phensiynau. Rhaid i’r oedolion sy’n bwriadu ymuno â’r rhaglen gael gwiriad cymhwysedd cyn-fynediad gyda’r Ganolfan Byd Gwaith.
-
Dysgu sy’n Canolbwyntio ar Waith - nod y rhaglen hon yw mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau dysgu sydd efallai yn eich atal rhag ymrwymo i waith, hyfforddiant neu addysg amser llawn.
- Llwybrau i Waith - mae hon yn rhaglen hyfforddi bwrpasol alwedigaethol fer o dan arweiniad cyflogwr wedi’i theilwra ar gyfer cyflogwyr unigol/grwpiau o gyflogwyr sy’n ystyried recriwtio unigolion. Byddwch yn siŵr o gael cyfweliad am swydd ar ôl cwblhau’r rhaglenni hyn yn llwyddiannus.
Beth yw’r manteision?
- cynyddu cymhelliad a magu hyder;
- cael profiad yn yr alwedigaeth o’ch dewis;
- ennill cymwysterau ar Lefel 1 neu 2;
- datblygu’ch sgiliau hanfodol (cyfathrebu, cymhwyso rhif, TGCh, gweithio gydag eraill, gwella’ch dysgu eich hun a datrys problemau);
- premiwm hyfforddi;
- cymorth gofal plant ar gyfer rhieni unigol;
- gwella’ch cyfle o gael eich cyflogi; a
- chymhorthdal teithio.
Cynigiwn y cyrsiau canlynol ar hyn o bryd (gall fod newidiadau):
- Tystysgrif mewn Trin Gwallt a Gwaith Barbwr
- NVQ Tystysgrif mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid
- NVQ Tystysgrif mewn Gweinyddu Busnes
- Dyfarniad Mewn Gwaith Warws a Storio
- NVQ Tystysgrif a Diploma mewn Gwasanaethau Lletygarwch
- NVQ Diploma mewn Coginio Proffesiynol
- NVQ Perfformio Gweithrediadau Peirianneg
- NVQ Plymwaith
- Diploma mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
- Dyfarniad mewn Systemau TGCh ac Egwyddorion i Brentisiaid
- Tystysgrif i Ddefnyddwyr TG
Sylwch fod angen i bob dysgwr gael ei gyfeirio gan y Ganolfan Byd Gwaith (cysylltwch â’ch cynghorydd). I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01792 284477.












