Sgiliau ar gyfer Diwydiant yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

  • Oes gennych chi fusnes yn Ne-orllewin Cymru?
  • Hoffech chi ddatblygu’ch sgiliau chi a/neu sgiliau'ch staff?
     

Os felly, gallech fanteisio ar brosiect newydd Sgiliau ar gyfer Diwydiant wedi'i ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a fydd yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu yn yr ardal tan fis Rhagfyr 2015.

Dyfarnwyd £8 miliwn i Goleg Gŵyr Abertawe i gynnig hyfforddiant Sgiliau ar gyfer Diwydiant.  Bydd yr arian yn helpu cyflogwyr a mentrau i addasu i'r newid economaidd drwy wella lefelau sgiliau a chymwysterau.

***

Pwy all fanteisio?
Cwmnïau sector preifat (gan gynnwys Busnesau Bach a Chanolig a chyrff sector gwirfoddol) yn ardal De-orllewin Cymru a'u gweithwyr.

Beth all Sgiliau ar gyfer Diwydiant ei gynnig?
Hyfforddiant achrededig ar gyfer cyrsiau a ariannwyd ar wahanol lefelau.

Beth fydd y gost?
Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi gan Raglen Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (trwy Lywodraeth Cymru) felly mae ar gael i gwmnïau cymwys am gyfraniad ariannol bach.

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01792 284408, anfonwch e-bost at SFIcourses@gowercollegeswansea.ac.uk neu ewch i wefan Sgiliau ar gyfer Diwydiant

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg Castell Nedd Port Talbot, Coleg Sir Benfro a Choleg Sir Gâr i gynnig y prosiect Sgiliau ar gyfer Diwydiant.

Telerau ac amodau'n gymwys.

The South West Wales Lion’s Lair final took place recently at the Dylan Thomas Centre, Swansea. A...
GCS
Gower College Swansea has two upcoming open evenings for those looking to start a part time course this...
ColegauCymru - the national organisation representing all 17 further education (FE) colleges and two FE...
These exhibitions are the culmination of this year's work from the Visual Arts students at Llwyn Y Bryn....
GCS
Welsh Bacc students have taken part in a fundraising project to raise money for SOS AFRICA with the key goal...