Skip to main content

ACCA - Adroddiadau Busnes Strategol

Rhan-amser
Lefel 7
ACCA
Sketty Hall
One year part time delivered on a Wednesday from 12.30 to 16.30

Arolwg

Achredir ein cyrsiau cyfrifeg proffesiynol gan ACCA ac rydym yn Bartner Dysgu Cymeradwy Platinwm. Ar hyn o bryd, ni yw’r unig Ganolfan Addysg Bellach yn y DU i ddal y lefel hon o hyfforddiant. Eu bwriad yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd proffesiynol a fydd yn datblygu gweithwyr proffesiynol i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus; p’un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat, yn ymarfer mewn sefydliad cyfrifyddu neu’n dilyn gyrfa mewn busnes.

Uned: SBR – Adroddiadau Busnes Strategol
Byddwch yn gallu:

  • Cymhwyso egwyddorion moesegol a phroffesiynol sylfaenol at bryderon moesegol a thrafod canlyniadau ymddygiad anfoesegol
  • Gwerthuso priodoldeb y fframwaith adroddiadau ariannol a thrafod newidiadau mewn rheoleiddiadau cyfrifeg yn feirniadol
  • Cymhwyso barn broffesiynol wrth adrodd perfformiad ariannol amrywiaeth o endidau
  • Paratoi datganiadau ariannnol grwpiau o endidau
  • Dehongli a chynghori ar ystyr datganiadau ariannol sy’n cynnwys data anariannol gan gynnwys adroddiadau cylchrannol, cynaliadwyedd ac integredig ar gyfer rhanddeiliaid gwahanol
  • Cyfleu effaith newidiadau mewn rheoleiddiadau cyfrifeg ar adroddiadau ariannol.

04/07/23

Gwybodaeth allweddol

Cwblhau unedau ACCA - BT i FM neu eithriadau gradd. Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.

Mae’r holl addysgu yn seiliedig ar ddarlithoedd ystafell dosbarth gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol.

Cynigir arholiadau ffurfiol bedair gwaith y flwyddyn gan ACCA.

Bydd myfyrwyr yn gallu astudio a symud ymlaen at unedau ACCA SBL eraill ac unedau pynciau dewisol. Mae’r cwrs hefyd yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.

Gofynnwch am fanylion unrhyw gyllid a allai fod ar gael.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y cwrs hwn, cysylltwch â'r Tîm Cyfrifeg ar 01792 284097, accountancy@coleggwyrabertawe.ac.uk