ACCA Moeseg a Sgiliau Proffesiynol
Arolwg
Mae ein cyrsiau mewn cyfrifeg broffesiynol wedi’u hachredu gan yr ACCA ac rydym yn Bartner Dysgu Cymeradwy Platinwm. Ar hyn o bryd ni yw’r unig Ganolfan Addysg Bellach yn y DU i gynnal y lefel hon o hyfforddiant. Nod y cyrsiau yw darparu’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd proffesiynol a fydd yn datblygu gweithwyr proffesiynol cyfrifeg i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus; p’un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat, yn ymarfer mewn sefydliad cyfrifyddu neu’n dilyn gyrfa mewn busnes.
Uned
Mae'r modiwl Moeseg a Sgiliau Proffesiynol newydd yn rhan bwysig o daith ACCA.
Cyflogadwyedd
Yn ogystal â bod yn un o’r tri gofyniad allweddol tuag at aelodaeth ACCA, nod y modiwl Moeseg a Sgiliau Proffesiynol newydd yw cynyddu eich cyflogadwyedd trwy eich cyflwyno i sefyllfaoedd busnes realistig a datblygu’r sbectrwm llawn o sgiliau moesegol a phroffesiynol uwch.
Pris a hyd y modiwl
Codir ffi untro o £60 am y modiwl newydd. Mae’n addysgu amrywiaeth eang o rinweddau proffesiynol sy’n hanfodol i’r gweithle, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu, masnachol, arloesi, dadansoddi a gwerthuso a disgwylir iddo gymryd tua 20 awr i’w gwblhau.
Mae hyn yn adlewyrchu ehangder y cynnwys, sy’n datblygu sgiliau sy’n hanfodol i’r cymhwyster a’r proffesiwn ehangach. Nid yw cost gyffredinol y cymhwyster yn cynyddu o ganlyniad i godi tâl am y modiwl.
Gwybodaeth allweddol
Cwblhau AAT Cyfrifeg Lefel 4 neu eithriadau gradd neu gwblhau modiwlau ACCA F1 i F9.
Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.
Addysgir y cwrs gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol iawn ac mae’n seiliedig ar ddarlithoedd ystafell ddosbarth. Gellir sefyll yr arholiad unrhyw bryd gartref neu ym Mhlas Sgeti fel rhan o’r cwrs.