Skip to main content

Prentisiaid yn barod ar gyfer rowndiau cenedlaethol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymbaratoi i groesawu rowndiau terfynol cenedlaethol cystadleuaeth nodedig Prentis y Flwyddyn ar 24 Ionawr.

Ymhlith y cystadleuwyr mae tri myfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe sy’n gobeithio sicrhau lle yn Rownd Derfynol y DU yn Cheltenham ym mis Mawrth.

Mae’r myfyriwr plymwaith Oliver Degay yn gobeithio dilyn yn ôl traed disglair Luke Evans yn 2018 a Mariusz Gawarecki yn 2017 i fod y trydydd myfyriwr yn olynol o Goleg Gŵyr Abertawe i gyrraedd rowndiau terfynol Prentis Gwresogi y Flwyddyn HIP UK.

Yn y cyfamser, bydd Elliot Jones a Tom Clarke yn cynrychioli’r Coleg yng nghystadleuaeth Prentis Cwrs Trydanol y Flwyddyn SPARKS UK. Byddan nhw’n gobeithio cael yr un llwyddiant â Jay Popham, a gyrhaeddodd y rowndiau terfynol yn 2018.

Bydd pob un o’r cystadleuwyr yn cael tasg i efelychu gosodiad plymwaith a thrydanol ‘tŷ cyfan’. 

Trefnir cystadlaethau’r DU hyn bob blwyddyn gan SPARKS a HIP Magazines i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau Lefel 2 a 3.
 
“Bydd y myfyrwyr yn cael llawer allan o'r cystadlaethau hyn,” meddai Natacha Fielding, Rheolwr Gyfarwyddwr SNG Publishing Ltd. “Maen nhw'n gwneud ffrindiau newydd, yn magu hyder yn eu gallu ac yn mwynhau her cystadlu."

DIWEDD