Cyn-fyfyriwr yn ennill cap cyntaf i Gymru yng Nghystadleuaeth y Chwe Gwlad


Diweddarwyd 18/02/2019

Mae cyn-fyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill ei chap rygbi cyntaf dros Gymru yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad, yn erbyn Ffrainc.

Cafodd Alex Collender, o Gaerfyrddin, ei synnu wrth iddi ennill ei chap cyntaf yn gynnar yng ngêm agoriadol y gystadleuaeth, ar Chwefror 2, ym Montpellier.

16 oed oedd Alex (dwy flynedd yn ôl), pan ddechreuodd chwarae rygbi i dîm Llanelli Wanderers, yn dilyn anogaeth gan ffrindiau. Ar hyn o bryd mae’n chwarae ei rygbi rhanbarthol gyda’r Scarlets.

Dywedodd Alex: “Breuddwydiais am gael chwarae dros Gymru…roedd y teimlad yn fythgofiadwy.”

Ar ôl gorffen yng Ngholeg Gŵyr Abertawe haf diwethaf, bu Alex yn astudio Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Aeth mam, tad a brawd Alex i Ffrainc i’w chefnogi yn y gêm fawr.

“Mae fy nheulu a’m ffrindiau wedi bod yn gefnogol iawn a hoffwn ddiolch iddynt o waelod calon”, meddai Alex, sydd yn brwydro i ddechrau dros Gymru yng nghrys y blaenasgellwr.

Dywedodd Sarah Lewis, cyn-hyfforddwr Alex yn y Coleg:

“Roedd Alex yn fyfyriwr ysgoloriaeth ddwbl ym mhêl-rwyd a rygbi. Mae eisoes wedi cynrychioli tîm pêl-rwyd Cymru dan 21 ac wedi bod yn is-gapten ar dîm menywod dan 18 y Scarlets.

Mae Alex yn unigolyn dawnus iawn sydd wedi arddangos sgiliau a dygnwch ardderchog ar y cwrt. Roedd hi’n aelod allweddol o’r garfan ac yn medru ysbrydoli, annog a chefnogi aelodau eraill o’r tîm.

Roedd dygnwch a brwdfrydedd Alex ar y cwrt yn ei gwneud hi’n hawdd i’w hyfforddi.”

Yn anffodus, colli oedd hanes tîm Cymru yn ei gêm agoriadol yn erbyn Ffrainc o 52-3, ond er gwaethaf y canlyniad, dywedodd Alex ei bod hi wedi mwynhau’r profiad.

Tags: