Hyfforddeiaethau

Hyfforddeiaethau
Mae hyfforddeiaethau yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac maen nhw ar gael i bobl 16-18 oed - ni fydd rhaid i chi dalu ceiniog!
 

  • Ymgysylltu - y nod yw mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau dysgu sydd efallai yn eich atal rhag ymrwymo i waith, hyfforddiant neu addysg amser llawn.
     
  • Hyfforddeiaethau Lefel 1 - y nod yw adnabod a mynd i’r afael â’r rhwystrau dysgu sy’n eich atal rhag dechrau cwrs dysgu galwedigaethol ar Lefel 2 neu ddechrau cyflogaeth.
     
  • Pontydd i Waith Lefel 2 - ar gyfer dysgwyr sydd yn gymwys yn alwedigaethol ac sydd wedi cwblhau Lefel 1. Mae meini prawf mynediad yn cael eu hystyried – cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.


Beth yw’r manteision?

  • cynyddu cymhelliad a magu hyder;
  • cael profiad a chymwysterau yn yr alwedigaeth o’ch dewis;
  • datblygu’ch sgiliau hanfodol (cyfathrebu, cymhwyso rhif, TGCh, gweithio gydag eraill, gwella’ch dysgu eich hun a datrys problemau);
  • taliad Lwfans Cynhaliaeth Hyfforddiant (pro rata);
  • gwella’ch cyfle o gael eich cyflogi; a
  • chymhorthdal teithio.

Sylwch fod angen i bob dysgwr gael ei gyfeirio gan Gyrfa Cymru. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01792 284477.

Join us at Llwyn y Bryn at 7pm on Thursday 23rd May for our annual Film Festival - just £2.50 per ticket Our...
A Level students from Gower College Swansea have successfully competed in an annual ‘Chemistry Olympiad...
A ‘potted’ version of the Shakespearian classic performed by our One Year Acting course students...
A musical based upon the songs of Madness featuring all our Year 2 BTEC Performing Arts students....
Steve Williams, Curriculum Leader for Digital Technology at Gower College Swansea, has won a prestigious...