
Sgiliau ar gyfer Diwydiant yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
- Oes gennych chi fusnes yn Ne-orllewin Cymru?
-
Hoffech chi ddatblygu’ch sgiliau chi a/neu sgiliau'ch staff?
Os felly, gallech fanteisio ar brosiect newydd Sgiliau ar gyfer Diwydiant wedi'i ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a fydd yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu yn yr ardal tan fis Rhagfyr 2015.
Dyfarnwyd £8 miliwn i Goleg Gŵyr Abertawe i gynnig hyfforddiant Sgiliau ar gyfer Diwydiant. Bydd yr arian yn helpu cyflogwyr a mentrau i addasu i'r newid economaidd drwy wella lefelau sgiliau a chymwysterau.
***
Pwy all fanteisio?
Cwmnïau sector preifat (gan gynnwys Busnesau Bach a Chanolig a chyrff sector gwirfoddol) yn ardal De-orllewin Cymru a'u gweithwyr.
Beth all Sgiliau ar gyfer Diwydiant ei gynnig?
Hyfforddiant achrededig ar gyfer cyrsiau a ariannwyd ar wahanol lefelau.
Beth fydd y gost?
Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi gan Raglen Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (trwy Lywodraeth Cymru) felly mae ar gael i gwmnïau cymwys am gyfraniad ariannol bach.
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01792 284408, anfonwch e-bost at SFIcourses@gowercollegeswansea.ac.uk neu ewch i wefan Sgiliau ar gyfer Diwydiant
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg Castell Nedd Port Talbot, Coleg Sir Benfro a Choleg Sir Gâr i gynnig y prosiect Sgiliau ar gyfer Diwydiant.
Telerau ac amodau'n gymwys.












