
Cwrs Paratoi ar gyfer y Lluoedd Arfog
Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau a fydd yn rhoi dealltwriaeth glir iddynt o yrfa yn y Lluoedd Arfog. Cynhelir y cyrsiau ym mis Medi a mis Chwefror. Bydd lwfans hyfforddi wythnosol ar gael (bydd rhaid cyfrannu tuag at gostau teithio).
Nod y cwrs yw:
• paratoi pobl ifanc sy’n ystyried ymuno â’r Lluoedd Arfog drwy ddarparu cyflwyniad trylwyr i’r gofynion mynediad a’r broses sefydlu;
• goresgyn y rhwystrau mynediad y mae rhai darpar recriwtiaid wedi eu hwynebu oherwydd diffyg sgiliau sylfaenol a ffitrwydd corfforol; a
• rhoi cyfle i bobl ifanc gydnabod a gweithio tuag at y sgiliau a’r gallu fydd yn eu cynorthwyo i gael mynediad a gwella rhagolygon dyrchafiad a gyrfa yn y Lluoedd.
Cynnwys y cwrs:
- NOCN Tystysgrif mewn Sgiliau Tuag at Ddilyniant Galluogi
- Tystysgrif mewn Sgiliau Gwaith
- Tystysgrif mewn Byw'n Iach a Ffitrwydd Mynediad 3
- Sgiliau hanfodol
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd
- NARS Gwobrau Croes Efydd/Arian/Cymhwyster achub bywyd mewn pwll
- Ffitrwydd corfforol/ffitrwydd nofio
- Ffitrwydd amlgampfa
- Gwaith menter/elusennol
- Darlithoedd gwadd gan weithwyr y Lluoedd Arfog
- Ffug gyfweliadau
- Cyflwyniadau ar yrfaoedd
- Tasgau gorchymyn
- Cyfeiriannu a gwaith mapio
Rhaid i oedolion gael eu cyfeirio gan y Ganolfan Waith (cysylltwch â’ch cynghorydd yn y Ganolfan Waith).
Rhaid i bobl 16-18 oed gael eu cyfeirio gan Gyrfa Cymru 01792 644444.
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01792 890729.
Diweddarwyd Gorffennaf 2012











