Llywodraethu

Y Corff Llywodraethu
Mae Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn ei gwneud hi'n ofynnol i bob coleg yn y sector Addysg Bellach gael corff llywodraethu.  Enw corff llywodraethu'r coleg yw'r Bwrdd Corfforaethol.  Mae'n cynnwys 20 o lywodraethwyr sydd ag ystod eang o arbenigedd a phrofiad, ac sy'n dymuno cyfrannu at y gymuned leol.

Mae'r Bwrdd Corfforaethol yn gyfrifol am ddiddyledrwydd ariannol y coleg, ei reolaeth gadarn ac ansawdd y gwasanaeth y mae'n ei ddarparu.  Mae'r Bwrdd hefyd yn gyfrifol am y defnydd priodol o gronfeydd cyhoeddus a ymddiriedir iddo.

Mae ei ddyletswyddau'n cynnwys:

  • penderfynu ar gymeriad addysgol a chenhadaeth y sefydliad a goruchwylio ei weithgareddau
  • y defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau, diddyledrwydd y sefydliad a'r Gorfforaeth a diogelu eu hasedau
  • cymeradwyo amcangyfrifon blynyddol o incwm a gwariant
  • penodi, graddio, atal dros dro, diswyddo a phennu tâl ac amodau gwasanaeth deiliaid swyddi uwch a Chlerc y Gorfforaeth
  • gosod fframwaith ar gyfer tâl ac amodau gwasanaeth pob aelod arall o staff.

Mae’r Bwrdd Corfforaethol yn gwneud rhywfaint o’i waith drwy’r pwyllgorau canlynol sydd naill ai yn bwyllgorau ymgynghorol ac/neu yn bwyllgorau sy’n gwneud penderfyniadau, fel y nodir gan y Bwrdd Corfforaethol a deddfwriaeth:

Mae’r Bwrdd Corfforaethol wedi mabwysiadu Cod Ymddygiad i helpu i sicrhau effeithiolrwydd y broses lywodraethu drwy nodi safonau ymddygiad a ddisgwylir gan Lywodraethwyr.

Y Llywodraethwyr

Offerynnau ac erthyglau

Mae’r Clerc i’r Corff Llywodraethu yn cadw Cofrestr o Fuddiannau Llywodraethwyr.

Mae’r Bwrdd Llywodraethwyr yn penderfynu ar gymeriad addysgol, cenhadaeth a gweledigaeth strategol y Coleg, ac yn goruchwylio ei weithgareddau a‘i berfformiad.

Rydym yn chwilio am aelod newydd o’r Bwrdd a fydd yn helpu i lunio dyfodol y Coleg.  Hoffem gael aelodaeth sy’n adlewyrchu ystod eang o gefndiroedd.

Mae swyddi gwag yn codi o bryd i’w gilydd ar y Bwrdd Corfforaethol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am rôl y Llywodraethwr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, cysylltwch â Chlerc y Gorfforaeth.

Os oes unrhyw gwestiynau gennych am faterion llywodraethu, cysylltwch â Lucy Griffiths, Clerc i'r Bwrdd Corfforaethol ar 01792 284222 neu anfonwch e-bost i lucy.griffiths@gowercollegeswansea.ac.uk

Sylwch bydd yr holl ddogfennau wedi'u dyddio cyn 20 Awst 2010 yn cyfeirio at 'Goleg Abertawe' a/neu 'Goleg Gorseinon' oherwydd cawson nhw eu hysgrifennu cyn ffurfio Coleg Gŵyr Abertawe.

Diweddarwyd Ebrill 2013

Join us at Llwyn y Bryn at 7pm on Thursday 23rd May for our annual Film Festival - just £2.50 per ticket Our...
A Level students from Gower College Swansea have successfully competed in an annual ‘Chemistry Olympiad...
A ‘potted’ version of the Shakespearian classic performed by our One Year Acting course students...
A musical based upon the songs of Madness featuring all our Year 2 BTEC Performing Arts students....
Steve Williams, Curriculum Leader for Digital Technology at Gower College Swansea, has won a prestigious...