
Canolfan Chwaraeon

Canolfan Chwaraeon
Heol Tycoch
Abertawe
SA2 9EB
Ffôn: 01792 284088
E-bost: sportscentre@gowercollegeswansea.ac.uk
Ymweld â ni ar Facebook
Amserau Agor
Llun i Iau - 6.30am tan 10pm
Gwener - 6.30am tan 9pm
Sadwrn - 8am tan 7pm
Sul - 8am tan 9pm
Mae Canolfan Chwaraeon Tycoch yn cynnwys stiwdio gyflyru llawn offer [gyda dewis o offer diweddaraf Nautilus gan gynnwys dringwyr traed, melinau traed, beiciau, pwysau rhydd, peiriannau rhwyfo a hyfforddwyr eliptigol], neuadd chwaraeon amlbwrpas a chyrtiau sboncen.
|
Amserlen dosbarthiadau ymarfer corff yng Ngholeg Gŵyr Abertawe |
||
|
Dydd |
Dosbarth |
Amser |
| Llun | Hwb Ben Bore | 7.00-8.00am |
|
|
Troelli Keiser i Ddechreuwyr (rhaid cadw lle) |
5.30-6.00pm |
|
|
Troelli Keiser (rhaid cadw lle) |
6.15-7.00pm |
|
Mawrth |
Troelli Keiser (rhaid cadw lle) |
7.00-7.45am |
|
|
Troelli Keiser Uwch (rhaid cadw lle) |
6.00-6.45pm |
|
|
Hyfforddiant Cylchol* |
7.00-7.45pm |
|
Mercher |
Bootcamp i Ferched** |
6.00-7.00pm |
|
|
Troelli Keiser (rhaid cadw lle) |
7.00-7.45pm |
|
Iau |
Troelli a Phwnio (rhaid cadw lle a thalu am 10 wythnos ymlaen llaw) |
6.45-7.30am |
| Cerflunio’r Corff (rhaid cadw lle) | 7.00-8.00pm | |
|
Gwener |
Troelli Keiser (rhaid cadw lle) |
7.15-8.00am |
|
|
Troelli Keiser (rhaid cadw lle) |
5.15-6.00pm |
| Sadwrn | Troelli a Phwnio (rhaid cadw lle) | 9-9.45am |
| Pilates (rhaid cadw lle) | 10-11am | |
|
Sul |
Hyfforddiant Cylchol* |
11.15-12.15pm |
|
|
Pilates** |
5.00-6.00pm |
O 1 Chwefror bydd pris dosbarthiadau ymarfer corff yn codi yng Nghanolfan Chwaraeon y coleg. Pris newydd y dosbarthiadau yw £2.50.
* Yn rhad ac am ddim i aelodau llawn, staff ac aelodau corfforaethol yn unig
** Prisiau'n amrywio a bydd rhaid i chi dalu'r hyfforddwr allanol yn uniongyrchol
Diweddarwyd diwethaf 07/02/2013
Profi ffitrwydd
Mae'r profion yn cynnwys pwysau gwaed, canran braster y corff, cyfansoddiad y corff, gweithrediad yr ysgyfaint, pŵer y coesau, cryfder rhan ucha'r corff, gwydnwch ac ystwythder.*
Bwriad profi ffitrwydd yw archwilio eich lefelau ffitrwydd cyffredinol. Mae profion ffitrwydd yn ffordd hawdd o fonitro cynnydd eich rhaglen ymarfer corff. Bydd prawf ffitrwydd rheolaidd yn sicrhau eich bod chi'n cael y canlyniadau gorau o'ch hyfforddiant.
Yn ystod ein sesiynau profi ffitrwydd byddwn ni'n archwilio nifer o elfennau cysylltiedig ag iechyd megis:
- Holiadur meddygol llawn
- Taldra
- Pwysau
- Pwysau gwaed
- Cyfradd curiad y galon
- Indecs Màs y Corff (BMI)
- Canran braster y corff
- Gallu'r ysgyfaint
- Ystwythder
- Ffitrwydd aerobig (VO2 max)
Gallwn hefyd gynnig cyngor i'ch helpu chi i gyrraedd eich nodau personol o fewn amserlen resymol. Bydd y sesiwn ymgynghori yn para tua 45 munud. Mae pob cleient yn cael dewis aelod o staff gwryw neu fenyw.
Mae'r rhain ar gael yn y stiwdio gyflyru bob bore Mawrth a bore Iau [rhwng 10am a 11.30am] a bob dydd Sadwrn [rhwng 11am a 12pm.]
Cyfeiriadau Meddyg Teulu
Mae cyfeiriadau meddyg teulu yn gofyn am wasanaethau gweithiwr proffesiynol hyfforddedig i lunio rhaglen ymarfer corff ddiogel ac effeithiol i'ch ailsefydlu ar ôl i chi gael anaf neu lawdriniaeth, salwch neu oherwydd bod eich meddyg o'r farn bod rhaid i chi fod yn fwy iach am resymau iechyd.
Sut mae'r cynllun cyfeirio meddyg teulu yn gweithio
Bydd meddyg teulu lleol, nyrs practis, ymgynghorydd neu weithiwr proffesiynol meddygol arall yn cyfeirio cleifion drwy roi 'Ffurflen Gyfeirio' iddyn nhw. Mae'r cyfeiriad hwn yn nodi manylion unrhyw broblemau meddygol sydd gan y claf y bydd angen eu hystyried pan fydd un o'n hyfforddwyr cymwysedig yn llunio rhaglen ymarfer corff briodol.
Y sesiwn gyntaf
Mae’ch sesiwn gyntaf yn rhad ac am ddim a bydd ar ffurf asesiad ffitrwydd syml ond effeithiol. Bydd un o'n hyfforddwyr cyfeiriad meddyg teulu cymwysedig yn ei chynnal a bydd yn para tua 45 munud.
Bydd rhaid i chi lenwi holiadur meddygol a gwneud asesiad felly dylech chi wisgo dillad llac, cyffyrddus ac esgidiau gyda gwadn meddal neu drênyrs. Gan ystyried y canlyniadau a'r rheswm dros eich cyfeirio, bydd yr hyfforddwr yn llunio rhaglen ymarfer corff i gychwyn arni yn ystod yr apwyntiad nesaf.
Gweithgareddau i blant [dan 16 oed]
Mae sesiynau'n cael eu cynnal bob wythnos. Pris y sesiynau yw £2.50 y plentyn (Badminton Iau £1.50) a gallwch chi ddewis o'r canlynol:
- Dydd Iau rhwng 5pm a 6pm - Pêl-droed Plant Iau (6 i 10 oed)
- Dydd Gwener (yn ystod y tymor yn unig) rhwng 5pm a 6pm - Badminton Iau (11-18 oed)
- Llun - Gwener (heblaw gwyliau banc) - Cardio i'r Arddegau (14 - 16 oed) rhwng 3.30pm - 5pm, £2.50 y sesiwn (rhaid dangos tystysgrif geni neu basbort i brofi'ch oedran yn y sesiwn gyntaf)
Aelodaeth
Ffurflen gais aelodaeth
Amserau Cau*
Dydd Gwener y Groglith - Dydd Llun y Pasg
Calan Mai
Gŵyl Banc y Sulgwyn
Gŵyl Banc mis Awst
Dydd Nadolig i Ddydd Calan
*Sylwch bydd y Ganolfan Chwaraeon yn cau yn ystod tywydd garw. Os bydd unrhyw ran o'r coleg ar gau yn yr amgylchiadau hyn, bydd neges yn cael ei rhoi ar y dudalen hafan a gaiff ei diweddaru'n gyson.
Diweddarwyd Chwefror 2013












