
Ysgoloriaethau a Chyfoethogi
Mae ein rhaglen ysgoloriaeth yn ceisio helpu myfyrwyr sydd â gallu eithriadol ym maes academaidd, creadigol neu chwaraeon i feithrin eu doniau i'r eithaf.
Gall y cynllun ddarparu cymorth ariannol tuag at y canlynol:
- teithio
- costau astudio a byw dramor
- dosbarthiadau ychwanegol neu breifat
- clyweliadau
- dillad neu offer
Mae’r myfyrwyr hynny sydd â gallu eithriadol ym maes chwaraeon hefyd yn elwa ar y canlynol:
- hyfforddiant o safon
- cystadlu ar y lefel uchaf
- trin a rheoli anafiadau chwaraeon
- cymwysterau hyfforddi
- profiad hyfforddi drwy gynlluniau cymunedol
- cymorth i ennill contractau proffesiynol
Meini Prawf Ymgeisio
Rhaid i chi allu cael lle ar un o’n cyrsiau amser llawn. Does dim rhaid i chi wneud cais am gwrs yn yr un maes â'ch sgiliau arbennig [e.e. gallech chi ddilyn cwrs peirianneg a chael ysgoloriaeth am eich gallu eithriadol ym maes chwaraeon.] Fodd bynnag, er mwyn cadw eich cyllid ysgoloriaeth rhaid i chi lwyddo'n academaidd drwy gydol eich cyfnod yn y coleg. Bydd ffurflenni cais ar gael yn eich cyfweliad cychwynnol.
Eich Ffurflen Gais
Yn eich cais bydd rhaid i chi ddangos bod y gallu neu'r potensial gennych chi i lwyddo ar y lefel uchaf. Er enghraifft:
- Ydych chi eisoes wedi profi eich gallu rhagorol yn academaidd, yn greadigol neu ar y maes chwaraeon yn eich ysgol?
- Ydy'ch athro/athrawes wedi'ch adnabod fel rhywun â dawn arbennig - bydd angen geirda gan eich hyfforddwr neu’ch athro/athrawes sy'n nodi eich ymroddiad a'ch gallu
- Allwch chi ddangos eich cymhelliant a'ch ymroddiad i’ch diddordeb?
- Ydych chi wedi cynrychioli eich sir, eich rhanbarth neu’ch gwlad yn y maes o'ch dewis?
Yn eich cais bydd rhaid i chi ddangos sut y gall yr ysgoloriaeth eich helpu chi i gyflawni neu wella eich astudiaethau. Er enghraifft sut y gallai hyfforddiant ychwanegol eich helpu chi i ddatblygu eich sgiliau.
Amserlenni
Panel ysgoloriaethau tymor y gwanwyn
Bydd y mwyafrif o ysgoloriaethau ar gyfer 2012 yn cael eu dyrannu gan y panel hwn.
Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflenni cais yw 1 Mehefin 2012.
Bydd y panel ysgoloriaethau yn hysbysu ymgeiswyr o’i benderfyniadau ar 1 Gorffennaf 2012.
Panel ysgoloriaethau tymor yr hydref
Bydd y panel yn dyrannu’r ysgoloriaethau sy’n weddill ar gyfer 2012.
Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflenni cais yw 5 Medi 2012.
Bydd y panel ysgoloriaethau yn hysbysu ymgeiswyr o’i benderfyniadau ar 30 Medi 2012.
Ysgoloriaethau Chwaraeon
Gall myfyrwyr ar draws y coleg wneud cais am Ysgoloriaethau Chwaraeon. Ar hyn o bryd mae’r rhaglen ysgoloriaeth yn cynnig £500 y flwyddyn o gymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n rhagori yn y gamp o’u dewis. Rhaid i’r myfyrwyr hyn fod ar lefel elit er mwyn gwneud cais, yn ddelfrydol ar lefel ryngwladol neu lefel ryngwladol bosibl. Dylid cyfeirio pob cais i Rob Baynham.
Diweddarwyd Ionawr 2012











