
Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth
Mae prosiectau Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn cael eu hariannu gan y Llywodraeth ac yn gyfle i sefydliadau (busnesau, y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol) gydweithredu mewn gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth.
Bydd myfyriwr graddedig sydd newydd gymhwyso yn gweithio yn y sefydliad a bydd academydd o'r coleg yn gweithio gydag ef neu hi i gyflawni nodau’r prosiect PTG. Mae’r bartneriaeth dair ffordd hon o fudd i’r sefydliad, y myfyriwr graddedig a’r coleg.
Drwy gymryd rhan mewn Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth gall cwmni neu sefydliad:
- Gael mynediad i bobl gymwys sy’n llywio prosiectau newydd
- Cael mynediad i arbenigwyr o’r coleg
- Datblygu atebion arloesol i broblemau busnes
- Cynyddu ei fantais gystadleuol
- Cynyddu proffidioldeb
- Tyfu
Ar gyfartaledd, bydd prosiect PTG â’r coleg yn creu cynnydd blynyddol mewn elw o £220,000 cyn treth, creu tair swydd newydd a gwella sgiliau staff presennol.
Pam PTG â Choleg Gŵyr Abertawe?
Y coleg yw'r sefydliad addysg bellach mwyaf yn y DU sy'n darparu prosiectau hyn ac mae wedi datblygu a darparu'r dros 90 o brosiectau ac ennill sawl gwobr.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r adran PTG ar 01792 284440.












